Mae tîm rheoleiddio Llywodraeth Cymru (LlC) yn rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae Cymdeithasau Tai hefyd yn cael eu hadnabod fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu LCC yn fyr.

Heriau a Risgiau i'r Sector Cymdeithasau Tai – Chwefror 2022

Mae tîm rheoleiddio Llywodraeth Cymru (LlC) yn rheoleiddio cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae Cymdeithasau Tai hefyd yn cael eu hadnabod fel Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig neu LCC yn fyr.

Mae'r Tîm Rheoleiddio yn LlC wedi cynhyrchu papur canllaw newydd o'r enw Heriau a Risgiau i’r Sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig – Chwefror 2022.   Pwrpas y papur hwn yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Gymdeithasau Tai ar y risgiau a’r heriau allweddol a wynebir gan y sector cymdeithasau tai yn ei gyfanrwydd a nodi disgwyliadau lefel uchel o ran sut y dylai Byrddau Cymdeithasau Tai ymateb.

Ers rhifyn diwethaf y papur Risgiau a Heriau, mae cymdeithasau tai i gyd wedi gorfod ymgodymu â phandemig Covid-19. Dangosodd heriau niferus y pandemig unwaith eto pa mor hanfodol yw llywodraethu cryf, wrth i Fyrddau wneud penderfyniadau da, gwybodus, er mwyn sicrhau bod cymdeithasau tai yn gallu nodi ac ymateb yn gywir i’r risgiau y maent yn eu hwynebu.

Mae’r canllaw hwn yn rhoi diweddariad i Gymdeithasau Tai ar y risgiau a’r heriau allweddol a wynebir gan y sector a aseswyd ar ddechrau’r flwyddyn ac mae’n nodi disgwyliadau lefel uchel o ran sut y dylai Byrddau ymateb. Mae risgiau wrth gwrs yn ddeinamig a gallant newid yn annisgwyl, er enghraifft, bydd risgiau a gyflwynir oherwydd y rhyfel yn yr Wcrain ac effaith argyfwng costau byw cynyddol wedi newid asesiadau risg sefydliadau yn yr ychydig wythnosau ers cwblhau’r trosolwg hwn.

Gweler y ddolen Heriau a Risgiau Sector LCC – Chwefror 2022.

Os oes gennych ymholiadau, cysylltwch ag [email protected]