Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o safonau y mae'n rhaid i bob cartref cyngor a chymdeithas tai yng Nghymru eu bodloni

Safonau newydd a gynigir ar gyfer pob cartref tai cymdeithasol yng Nghymru: beth yw eich barn chi?

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o safonau y mae'n rhaid i bob cartref cyngor a chymdeithas tai yng Nghymru eu bodloni. Fe’i cyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2002 a’i nod yw sicrhau bod pob annedd o ansawdd da ac yn addas ar gyfer anghenion preswylwyr presennol a dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau sicrhau bod holl bobl Cymru, gan gynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, yn gallu byw mewn cartrefi o ansawdd da, mewn cymunedau diogel a sicr, ac felly mae’n cynllunio ar gyfer disodli’r safonau presennol gyda set newydd o safonau arfaethedig wedi’u diweddaru o’r enw SATC2023.

SATC2023

Diben Safon Ansawdd Tai Cymru 2023 (SATC 2023) yw gwella ansawdd cartrefi cymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn ofynnol i bob cartref cymdeithasol yng Nghymru fodloni a chynnal y safon. Mae hyn yn cynnwys Cymdeithasau Tai a Chynghorau Lleol sy'n rheoli cartrefi.

Mae angen diweddaru’r Safon bresennol i adlewyrchu newidiadau i’r ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio ac yn teimlo am eu cartrefi, ac i ddechrau datgarboneiddio stoc tai cymdeithasol Cymru ar raddfa fawr.

Mae'r Safon yn cynnwys elfennau unigol, canllawiau ategol, enghreifftiau o arfer da a manylion asesu.

Mae rhannau o safon bresennol SATC yn parhau heb eu newid ond mae rhai elfennau wedi'u haddasu i adlewyrchu gofynion cyfreithiol wedi'u diweddaru. Yn ogystal, mae rhai rhannau'n newydd megis y gofyniad cynyddol am loriau, ystyriaeth o fioamrywiaeth a thlodi dŵr hefyd wedi'u cynnwys.

Mae TPAS Cymru yn falch iawn o weld y safon arfaethedig i gartrefi gael gorchuddion llawr addas pan fydd tenantiaid yn symud i mewn – mae hwn yn bryder y clywsom gan denantiaid ac y manylwyd arno ymhellach yn ein hadroddiad ymchwil – ‘Lloriau’. Yn ystod ein hymchwil dywedodd tenantiaid wrthym pa mor bwysig yw lloriau yn eu cartref: https://www.tpas.cymru/blog/lloriau-darparu-lloriau-priodol-mewn-tai-cymdeithasol

Roedd y SATC presennol yn cynnwys gofynion effeithlonrwydd ynni (cynhesrwydd fforddiadwy), ond mae’r rhain wedi cael hwb sylweddol i adlewyrchu uchelgeisiau datgarboneiddio ac i leihau biliau ynni i denantiaid.

Dysgwch fwy a sut i ddweud eich dweud...

Mae Llywodraeth Cymru am barhau i godi safon y tai cymdeithasol presennol, ac mae SATC2023 yn safon heriol y bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i bob landlord cymdeithasol yng Nghymru ei chyrraedd.

Mae gosod safon sy’n feiddgar ac yn gyraeddadwy yn hynod gymhleth ac mae Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio’ch barn ar safon newydd arfaethedig SATC2023.

  • Gallwch ymuno â ni a chydweithwyr o Lywodraeth Cymru am sesiwn gwybodaeth a thrafod ar y diweddariadau arfaethedig i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae'r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac ar gyfer Tenantiaid yn unig http://www.tpas.cymru/ymgynghoriad-satc-tenantiaid

  • Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu fersiwn Hawdd ei Ddeall defnyddiol o Safonau Ansawdd Tai Cymru arfaethedig sydd i’w gweld yma