Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru, a bydd yn dechrau ar 15 Gorffennaf 2022. Mae’r Ddeddf yn golygu y bydd newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth yng Nghymru i’w gwneud yn symlach ac yn haws rhentu cartref.

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) (Agenda Rhifyn 14)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod gyda'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y Ddeddf newydd a sut mae am effeithio ar denantiaid.

Main contents of the Renting Homes (Wales) Act

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, yw’r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru, a bydd yn dechrau ar 15 Gorffennaf 2022. Mae’r Ddeddf yn golygu y bydd newidiadau i gyfreithiau tenantiaeth yng Nghymru i’w gwneud yn symlach ac yn haws rhentu cartref.

O dan y gyfraith newydd, bydd tenantiaid yn dod yn 'ddeiliaid contract' a bydd cytundebau tenantiaeth yn cael eu disodli gan 'gontractau meddiannaeth'. Mae contract meddiannaeth rhwng y landlord sy’n berchen ar y tŷ/fflat a chi, deiliad y contract sy’n ei rentu.

Mae dau fath o gontract meddiannaeth:

  1. Contract diogel: ar gyfer cartrefi sy’n cael eu rhentu o eiddo Cynghorau (Awdurdodau Lleol) neu Gymdeithasau Tai (LCC)
  1. Contract safonol:  ar gyfer cartrefi sy’n cael eu rhentu gan landlordiaid preifat (sector rhentu preifat – SRhP) ond weithiau gall cynghorau a LCC eu defnyddio ar gyfer rhai mathau o dai (e.e. llety â chymorth).

Mae’n rhaid i’ch landlord roi ‘contract meddiannaeth’ i chi, a fydd yn disodli’ch tenantiaeth neu gytundeb trwydded: bydd hwn yn dweud beth y gallwch chi, a’r landlord, ei wneud a’r hyn na allwch ei wneud. Bydd y contract meddiannaeth yn cynnwys:

  • Materion allweddol: Er enghraifft, enwau'r partïon a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract.
  • Telerau Sylfaenol: Ymdrin ag agweddau pwysicaf y contract, hawliau a chyfrifoldebau e.e. cyfrifoldebau’r landlord am atgyweiriadau.
  • Telerau Atodol: Delio â’r materion mwy ymarferol, o ddydd i ddydd, er enghraifft, y gofyniad i hysbysu’r landlord os yw’r eiddo yn mynd i fod yn wag am bedair wythnos neu fwy.
  • Telerau ychwanegol: Gwybodaeth arall, er enghraifft a ganiateir i chi gael anifeiliaid anwes.

Gellir rhoi contractau fel copi brint neu, os yw deiliad y contract yn cytuno, yn electronig. Dylech lofnodi’r contract os ydych yn hapus â’r hyn y mae’n ei ddweud.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe Rhentu Cartrefi Llywodraeth Cymru (www.llyw.cymru/rhentucartrefi) neu cysylltwch â'ch landlord am ragor o wybodaeth.    

Cwestiynau i'w gofyn i'ch landlord:

  1. Pwy yw’r prif berson sy’n ‘arwain’ ar y Ddeddf newydd yn y sefydliad?
  2. Beth yw eich cynlluniau i roi gwybod i denantiaid am y Ddeddf newydd cyn mis Gorffennaf?
  3. Pa hyfforddiant a roddir i staff ar y Ddeddf newydd?
  4. Sut y byddwch yn cefnogi tenantiaid gyda'r newidiadau newydd hyn?
  5. A fydd gofyn i denantiaid/deiliaid contract lofnodi'r contractau newydd? Pryd mae hyn yn debygol o ddigwydd?

Gobeithio eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o'r Agenda. Byddem wrth ein bodd yn clywed am unrhyw sgyrsiau rydych chi wedi'u cael gyda'ch landlord ynglŷn â'r pwnc hwn, felly e-bostiwch [email protected] gydag unrhyw adborth neu gwestiynau pellach.