Rhesymau Pam y Dylech Ymaelodi White Line

Gwybodaeth ac Arbenigedd
Mynediad at dîm medrus, gwybodus sydd â phrofiad tai Cymru cyfunol o dros 60 mlynedd, a gefnogir gan brofiad cryf mewn hyfforddiant, y sector rhentu preifat, strategaeth ddigidol a chyfathrebu.


Y Cyngor Iawn
Rydym wedi bod yn hyrwyddo, cefnogi a hybu cyfranogiad tenantiaid ac ymgysylltu â thenantiaid ledled Cymru ers dros 35 mlynedd.


Mynediad at Sefydliadau Cysylltiedig
Mynediad at wybodaeth ac arbenigedd sefydliadau sy'n gysylltiedig â TPAS yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a sefydliadau fel Undeb Rhyngwladol y Tenantiaid.


Cefnogi Gwell Cyfranogiad
Dangos fel aelod eich bod yn cefnogi gwell cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedol yng Nghymru.


 Dulliau Ymgysylltu Newydd
Gweld y darlun mwy. Er enghraifft, dysgu dulliau newydd o ymgysylltu, dulliau creadigol newydd neu offer ddigidol i ehangu cyfranogiad.

 
Download Application pack


Mae cefnogi neu ymuno â Gwasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru yn dangos eich ymrwymiad i sicrhau bod Cyfranogiad a Llais Tenantiaid yn allweddol i'ch gwasanaeth neu sefydliad.

Mae TPAS Cymru wedi dangos yn gyson y gall dod â landlordiaid a thenantiaid at ei gilydd, eu helpu i ddeall y materion sy'n bwysig i’r naill a’r llall a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i bawb. Rydym yn eich helpu i ymgysylltu a gwrando yn well, yn ogystal â rhoi mynediad i chi at rwydwaith o landlordiaid, tenantiaid, cyflenwyr, a gwirfoddolwyr ymroddedig ledled Cymru

Mae’r rhannu gwybodaeth a phrofiad hwn yn helpu landlordiaid i fod yn fwy ymatebol i anghenion tenantiaid. Mae'n galluogi tenantiaid i gwrdd â phobl o'r un anian a ffurfio grwpiau cefnogaeth cryf. Yn fwy na dim, mae'n galluogi pob rhanddeiliad i gydweithio i wella gwasanaethau, arbed arian a newid cymunedau er gwell.

Edrychwch ar y manteision o fod yn Aelod o TPAS Cymru. 
Yr aelodaeth arferol yw aelodaeth landlord sy'n cynnwys ac o fudd i holl staff a thenantiaid y landlord hwnnw.
Yn ogystal, i eraill sydd ddim yn landlordiaid ac sydd eisiau gwella eu hymgysylltiad â thenantiaid a’r gymuned, mae gennym opsiynau aelodaeth a chefnogwyr eraill isod.
Opsiynau AelodaethCefnogwr Sero Net
White LineMae TPAS Cymru yn cyflwyno math newydd o aelodaeth Sero Net a fydd o fudd mawr i gwmnïau wrth iddynt ddangos cefnogaeth i denantiaid.

TPAS Cymru Net Zero