Aelodaeth Landlord

Mae Cyfranogiad Tenantiaid yn agwedd allweddol o ran rheoli tai, gan ddod â llawer o fanteision strategol yn ei sgil, gan gynnwys gwella gwasanaethau a chysylltiadau â thenantiaid, arbed arian a chael effaith gadarnhaol ar y gymuned.


Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn aelodau o TPAS Cymru ac o’r herwydd maent hwy a’u staff yn elwa o’r cyngor, canllawiau ac adnoddau y gall TPAS Cymru eu darparu.

Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru yn aelodau o TPAS Cymru ac o’r herwydd maent hwy a’u staff yn elwa o’r cyngor, canllawiau ac adnoddau y gall TPAS Cymru eu darparu.

 

Manteision

  • Digwyddiad hyfforddi mewnol am ddim
  • Gwasanaethau llinell gymorth ffôn ac e-bost i gael cyngor ar faterion penodol
  • Mynediad at gynnwys unigryw, adroddiadau a ryddheir ymlaen llaw a mynediad at ardal gyfyngedig gwefan TPAS Cymru
  • Gwasanaeth cymorth e-bost gan gymheiriaid, yn eich rhoi mewn cysylltiad â gwybodaeth a phrofiad aelodau eraill ar draws Cymru
  • Rhwydwaith Swyddogion: sesiynau rhwydweithio a briffio rheolaidd i’ch staff. Mae'r digwyddiadau hyn yn rhai sydd â thema ac maent yn targedu gwahanol gyfnodau fesul digwyddiad fel Swyddogion Cyfranogiad, Ymgysylltu â'r Gymuned, timau newid, cyfathrebu ayb.
  • Gwasanaeth adolygu am ddim ar gyfer cyfathrebiadau / llenyddiaeth tenantiaid cyn cyhoeddi (uchafswm o 5 y flwyddyn)
  • Gwasanaeth unwaith ac am byth cyfieithu i’r Gymraeg ar gyfer cyfathrebiadau tenantiaid/ preswylwyr/ cymunedol (uchafswm o 2 awr)
  • Cyhoeddiadau am ddim: cylchlythyrau, adroddiadau a chanllawiau arfer da
  • Sesiwn sefydlu am ddim i staff cyfranogiad tenantiaid/cymunedol newydd
  • Hawliau pleidleisio, sy'n eich galluogi i gael dweud eich dweud yn etholiad Bwrdd Rheoli TPAS Cymru

 

Diddordeb?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ymuno.