Aelodaeth Fasnachol

Bod yn rhan o sefydliadau sy’n cefnogi Llais Tenantiaid Cymru

TPAS Cymru yw’r sefydliad ymgysylltu â thenantiaid cenedlaethol ar gyfer Cymru, gydag aelodaeth yn cwmpasu darparwyr tai cymdeithasol ledled y wlad; Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol a sefydliadau corfforaethol sy'n gweithio yn y sector. Ni yw’r sefydliad a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ymgysylltiad tenantiaid a dylanwadu ar bolisi tai cenedlaethol yng Nghymru.


Mae ein Haelodaeth Fasnachol yn dangos i’ch cleientiaid eich bod yn gwerthfawrogi llais tenantiaid a chymunedau a’ch bod wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau oll i denantiaid.

Trwy ein cysylltiadau â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau polisi tai cenedlaethol a'n haelodaeth helaeth; sy'n cynnwys pob landlord cymdeithasol yng Nghymru; mae gennym y mewnwelediad diweddaraf i feddylfryd y sector ac mae ein cyrhaeddiad yn eang pan ddaw i ddylanwadu polisi tai.

 

Beth sydd wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth fasnachol?

Pam ymuno?

Bod yn aelod o TPAS Cymru yw’r ffordd orau o ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ymgysylltu â thenantiaid a chymunedau mewn tai.

Mae hefyd yn rhoi mynediad i chi i holl fanteision ein haelodaeth, ac yn eich helpu i aros ar flaen y gad o ran datblygiadau yn y maes tai yng Nghymru.

Trwy ein haelodaeth bydd eich sefydliad yn rhan o sefydliad cenedlaethol adnabyddus ac uchel ei barch sy'n gweithredu ar ystod o lefelau yn y sector tai.

Mae ein prif fanteision - ar gyfer sefydliadau Masnachol yn unig yn cynnwys:

• Defnydd unigryw o’n logo “Cefnogi llais y tenant” ar gyfer eich deunyddiau marchnata, dogfennau caffael a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

• Eich logo i'w weld ar ein tudalen we 'cefnogwyr'

• Gwahoddiad i Friffiadau Sector a digwyddiadau Bord Gron

• Cyfle i roi erthyglau neu fideos ar ein gwefan a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol

• Mynediad am ddim i friffiau polisi amserol ar-lein i gael trosolwg cyfoes o'r newyddion tai diweddaraf

• Mynediad i weminarau aelodau yn unig TPAS Cymru

• Cyfle i noddi digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb ar gyfraddau aelod gostyngol

• Buddiannau aelodaeth yn agored i bob aelod o staff/adran ar draws y sefydliad

• Hyd at 50% oddi ar ddigwyddiadau gan gynnwys briffiadau ar-lein a gweminarau a chynadleddau o gymharu â chyfraddau nad ydynt yn aelodau.

• Mynediad i’r cynnwys ‘aelod yn unig’ unigryw ar Wefan TPAS Cymru

• Hyrwyddiad cyfryngau cymdeithasol a gwefan ar gyfer aelodau newydd: yn dangos ymrwymiad eich sefydliad i Ymgysylltu â Thenantiaid

Costau

Mae'r aelodaeth fasnachol unigryw hon yn cychwyn o ddim ond £499 +TAW y flwyddyn – gyda gostyngiadau ar gael i Fentrau Cymdeithasol/CBC.

Am fwy o wybodaeth a/neu i sgwrsio am fuddion aelodaeth cysylltwch â David Lloyd

 

 

Diddordeb?

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy am ymuno.