Mae adroddiad diweddar Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn glir ei fod yn disgwyl i gymdeithasau tai yng Nghymru fod yn fwy agored a thryloyw. Mae’r Pwyllgor hefyd yn disgwyl i denantiaid gael mwy o bŵer a gwybodaeth gan gymdeithasau tai fel eu bod yn gallu craffu'r hyn y mae eu landlordiaid yn ei wneud drostynt yn drylwyr.

Agoredrwydd a Thryloywder: Bodloni disgwyliadau newydd - Abertawe

Mae adroddiad diweddar Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn glir ei fod yn disgwyl i gymdeithasau tai yng Nghymru fod yn fwy agored a thryloyw. Mae’r Pwyllgor hefyd yn disgwyl i denantiaid gael mwy o bŵer a gwybodaeth gan gymdeithasau tai fel eu bod yn gallu craffu'r hyn y mae eu landlordiaid yn ei wneud drostynt yn drylwyr.

Sut fydd eich cymdeithas yn ymateb i'r alwad hon ac yn defnyddio'r cyfle hwn i gynnig mynediad i denantiaid a chymunedau lleol at fwy o ddata a gwybodaeth am yr hyn y maen nhw'n ei wneud a sut maen nhw'n perfformio?

Ymunwch â ni yn ein sesiynau gweithdy ½ diwrnod rhanbarthol i archwilio’r cwestiwn yma, i edrych ar esiamplau o arferion da a pha wybodaeth ddylai fod ar gael.

Yn ystod y sesiwn gweithdy, bydd gennych gyfle:

  • I ystyried buddiannau bod yn agored a thryloyw
  • I drafod y rhwystrau i agoredrwydd a thryloywder
  • I edrych ar esiamplau o arferion da o’r sector cyhoeddus a’r sector Cymdeithasau Tai
  • I archwilio pa wybodaeth a data allai fod ar gael i denantiaid
  • I archwilio sut y gall cymdeithasau tai fod yn fwy agored a thryloyw

 Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer Staff, Tenantiaid ac Aelodau Bwrdd

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Agoredrwydd a Thryloywder: Bodloni disgwyliadau newydd - Abertawe

Dyddiad

Dydd Mawrth 28 Tachwedd 2017, 09:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mawrth 21 Tachwedd 2017

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

[email protected]

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Swansea Grand Theatre

Cyfeiriad y Lleoliad

Singleton Street
Swansea
SA1 3QJ

01792 475715

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X
  1. TPAS Cymru CANNOT accept any provisional bookings.
  2. To qualify for the 'early bird' price we must receive your completed booking form and payment by the closing date.
  3. Written confirmation is required for all cancellations. Cancellations received before the closing date will be refunded, minus an administration fee of £15.00 plus VAT. No refunds will be processed after this date.
  4. Registered delegates who do not attend the conference will be liable for payment in full unless written communication is received by the cancellation date.
  5. Any changes, such as names, made to the bookings after the closing date will incur an administration fee of £15.00 plus VAT per change.
  6. TPAS Cymru may have to cancel this event. In this case we will refund any payments received. We will not refund any costs you may incur as a result of the cancellation.