Cyhoeddwyd y bydd newidiadau i renti cymdeithasol

Rhenti yn 2027-28 – Gwybodaeth bwysig am osod rhenti ar gyfer tai cymdeithasol yng Nghymru

1. Sut mae rhenti cymdeithasol yn cael eu pennu yng Nghymru?

Cyhoeddwyd y bydd newidiadau i renti cymdeithasol

Gall rhenti cymdeithol gynyddu hyd at 4% o fis Ebrill 2027, yn dilyn cyfradd chwyddiant o 3.5% ym mis Medi. Fodd bynnag, terfyn uchaf yw 4%, nid targed. Rhaid i landlordiaid ystyried fforddiadwyedd, gwerth am arian a'u costau wrth bennu rhenti. Gall rhenti unigol hefyd gael eu rhewi, eu lleihau neu eu cynyddu hyd at £2.55 ychwanegol yr wythnos, ar yr amod nad eir y tu hwnt i'r terfyn cyffredinol ar incwm rhent.

Gwyliwch ein fideo esboniadol byr yma: Newdiadau i rhentu cymdeithasol yng Nghymru

Bydd yr union gynnydd yn eich rhent yn dibynnu ar benderfyniad eich landlord. Os ydych chi'n poeni am fforddiadwyedd, siaradwch â'ch landlord neu cysylltwch â Chyngor ar Bopeth am gymorth.

2. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu Hadroddiad Hunan Ardystio Monitro Safon Rhenti Tai Cymdeithasol 2025–2026, sy'n casglu gwybodaeth gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ledled Cymru.

Mae'r adroddiad yn edrych ar sut mae landlordiaid yn:

  • cymhwyso cynnydd mewn rhenti.
  • pennu taliadau gwasanaeth.
  • Asesu fforddiadwyedd a chynnwys tenantiaid mewn penderfyniadau ynghylch pennu rhenti.
  • Mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydbwyso pwysau ariannol a buddsoddi mewn tai â chadw rhenti'n fforddiadwy i denantiaid. gan gynnwys yr angen am gyfranogiad ystyrlon gan denantiaid mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar gyllid aelwydydd.

Darllenwch yr adroddiad monitro yma: https://www.llyw.cymru/safon-rhent-tai-cymdeithasol-monitro-ffurflenni-hunanardystio-blynyddol-2025-hyd-2026

3. CWESTIYNAU CYFFREDIN

C. Beth yw Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru (y Safon Rhenti)? Mae'r Safon Rhenti yn fframwaith 10 mlynedd (2026–2036) â rheolau a chanllawiau cysylltiedig i landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar sut i bennu rhenti a thaliadau gwasanaeth, ac i stoc dai landlord cymdeithasol yn gyffredinol. Ei nod craidd yw cydbwyso fforddiadwyedd i denantiaid â hyfywedd ariannol landlordiaid, gan sicrhau bod rhenti yn parhau i fod yn deg, yn rhagweladwy ac yn gynaliadwy.

C. Pwy sy'n gorfod cydymffurfio â'r Safon Rhenti? Rhaid i bob landlord cymdeithasol sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru (Awdurdodau Tai Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig) gydymffurfio â'r safon. Mae'r Safon Rhenti yn gymwys i dai anghenion cyffredinol a thai gwarchod, waeth beth fo'r ffynhonnell gyllido.

C. Beth yw'r “amlen rhenti”? Yr amlen rhent yw cyfanswm y cap ar incwm rhent ar draws stoc dai landlord cymdeithasol. Rhaid i landlordiaid sicrhau nad yw cyfanswm eu hincwm rhent yn fwy na'r cynnydd blynyddol a ganiateir (e.e. 4.0% ar gyfer 2027–2028, yn seiliedig ar MPD+0.5%). Nifer y stoc yw nifer yr unedau cymwys (*anghenion cyffredinol a thai gwarchod) ar y rhestr rhenti ar 31 Mawrth 2027. Mae ‘anghenion cyffredinol’ yn cyfeirio at unedau hunangynhwysol nad ydynt wedi’u cadw ar gyfer grwpiau penodol o gleientiaid. Mae ‘tai gwarchod’ yn cyfeirio at dai a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer pobl hŷn, sydd fel arfer yn cael eu hadeiladu mewn datblygiadau o tua 20 i 40 fflat neu fyngalo hunangynhwysol*.

C. Beth yw'r rheolau yn y Safon Rhenti ynglŷn â chynyddu rhent? o MPD+1% yw'r cynnydd cyffredinol mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn pan fo MPD ym mis Medi rhwng 0% a 3% ond ni ddylid ystyried bod MPD+1% yn gynnydd awtomatig i'w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol.

  • MPD+1% yw'r cynnydd cyffredinol mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn pan fo MPD ym mis Medi rhwng 0% a 3% ond ni ddylid ystyried bod MPD+1% yn gynnydd awtomatig i'w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol.
  • MPD+0.5% yw'r cynnydd cyffredinol mwyaf a ganiateir mewn unrhyw flwyddyn pan fo MPD ym mis Medi rhwng 3% a 5% ond ni ddylid ystyried bod MPD+0.5% yn gynnydd awtomatig i'w gymhwyso gan landlordiaid cymdeithasol.
  • Gall rhenti tenantiaid unigol gael eu lleihau neu eu rhewi neu gallant godi ‘hyd at £2.55 ychwanegol yr wythnos’ ar yr amod nad yw'r cynnydd yn incwm rhent cyffredinol y landlord cymdeithasol (yr amlen rhenti) yn fwy na MPD+1% na MPD+0.5%, fel y bo'n briodol.
  • Os bydd MPD ym mis Medi yn fwy na 5%, bydd Gweinidogion Cymru yn pennu'r cynnydd priodol a gaiff ei gymhwyso ar gyfer y flwyddyn honno.

C. Beth yw'r rheolau yn y Safon Rhenti ynglŷn ag addasu rhenti unigol? Gall landlordiaid leihau, rhewi neu godi rhenti tenantiaid unigol hyd at £2.55 ychwanegol yr wythnos, ar yr amod nad yw'r incwm rhent cyffredinol yn fwy na'r amlen rhent (sydd ar gyfer y flwyddyn rhent 2027-2028). Wrth gwblhau'r Ffurflen Monitro Hunanardystio Flynyddol ar gyfer 2027-2028, bydd angen i landlordiaid gadarnhau nad yw rhent tenant unigol wedi codi mwy na 4.0% + £2.55 yr wythnos.

C. Beth yw ystyr hyblygrwydd o ran yr amlen rhenti? Mae hyblygrwydd o ran yr amlen rhenti yn cyfeirio at y gallu i landlord cymdeithasol amrywio cynnydd mewn rhent rhwng eiddo neu denantiaid unigol, ar yr amod bod y cynnydd yn incwm rhent cyffredinol y landlord yn parhau i fod o fewn yr "amlen rhenti" a ganiateir. Disgrifir yr egwyddor hon yn y safon-rhenti-a-thaliadau gwasanaeth-2026-2036 sy'n nodi y gellir lleihau, rhewi neu godi rhenti unigol yn unol â symiau gwahanol, ar yr amod nad yw'r cynnydd yn incwm rhent cyffredinol y landlord yn fwy na'r amlen rhenti. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu:

  • Bod y cynnydd mwyaf (er enghraifft, MPD 1% neu MPD 0.5%, yn dibynnu ar chwyddiant) yn gymwys i incwm rhent cyffredinol y landlord, nid o reidrwydd i rent pob tenant.
  • y gallai rhai tenantiaid weld llai o gynnydd yn eu rhent, dim cynnydd o gwbl neu hyd yn oed leihad yn eu rhent.
  • Y gallai rhenti eraill gynyddu yn unol â swm uwch lle y bo angen.
  • Rhaid i'r landlord sicrhau, ar draws y stoc gyfan, fod y cynnydd mewn incwm rhent yn aros o fewn y terfyn a ganiateir.

Enghraifft syml:

  • Yr amlen rhenti a ganiateir: 3.5%
  • Mae rhent A yn codi 1%
  • Mae rhent B yn codi 2%
  • Mae rhent C yn codi 5%

Byddai hyn yn dderbyniol pe bai'r cynnydd cyfartalog ar draws yr holl eiddo yn aros ar 3.5% neu islaw hynny.

C.   Beth fydd yn digwydd os daw eiddo yn wag ac y caiff ei ailosod i denant newydd yn ystod y flwyddyn ariannol? Pan ddaw eiddo yn wag a chaiff ei ailosod yn ystod blwyddyn ariannol 2027-2028, rhaid i landlordiaid sicrhau bod y rhent newydd yn parhau i fod yn fforddiadwy ac na fydd yn golygu bod yr incwm rhent cyffredinol yn fwy na'r amlen rhenti. Hynny yw, nid yw cynnydd cyffredinol yn incwm rhent y landlord cymdeithasol ar draws ei stoc gyfan yn fwy na'r amlen rhenti, sef 4.0%.

C.   Beth fydd yn digwydd os daw eiddo yn wag ac y caiff ei ailosod i denant newydd yn ystod blwyddyn ariannol 2027-28? Pan ddaw eiddo yn wag a chaiff ei ailosod yn ystod blwyddyn ariannol 2027-28, gall y landlord bennu'r rhent ar gyfer y denantiaeth newydd, ond rhaid iddo sicrhau ei fod yn parhau i fod yn fforddiadwy a bod ei incwm rhent cyffredinol yn aros o fewn yr amlen rhenti, sef 4.0%. Mae hyn yn golygu, ar draws ei stoc tai cymdeithasol gyfan, na ddylai cyfanswm y cynnydd yn incwm rhent y landlord fod yn fwy na'r amlen rhenti a ganiateir.

C. Beth fydd yn digwydd os daw eiddo yn wag a bod angen gwneud gwaith arno cyn y gellir ei ailosod? Os bydd eiddo yn wag ac nad yw ar y rhestr rhenti ar 31 Mawrth 2027 (er enghraifft) ond y caiff ei roi yn ôl ar y rhestr rhenti yn ystod blwyddyn ariannol 2027-2028 a'i ailosod, nid yw'n rhan o ddull cyfrifo'r amlen rhenti ar gyfer 2027-2028. Fodd bynnag, byddai angen ei gynnwys yn null cyfrifo'r amlen ar gyfer blwyddyn ariannol 2028 2029.

C. Beth fydd yn digwydd os daw eiddo yn wag a bod angen gwneud gwaith arno cyn y gellir ei ailosod? Os daw eiddo yn wag a bod angen gwneud gwaith arno cyn y gellir ei ailosod, fel arfer byddai'n aros ar y rhestr rhenti. Dim ond eiddo gwag strategol hirdymor sydd wedi'i dynnu oddi ar y rhestr rhenti sy'n cael ei hepgor o ddull cyfrifo'r amlen rhenti. Er enghraifft, os na fydd eiddo gwag strategol hirdymor (mae eiddo a gedwir yn wag yn fwriadol am gyfnod hwy am resymau strategol neu weithredol ac sydd wedi'i dynnu oddi ar restr rhenti'r landlord yn wahanol i eiddo gwag arferol rhwng tenantiaethau, gan gynnwys pan fo angen gwneud gwaith arferol cyn y gellir ailosod yr eiddo) ar y rhestr rhenti ar 31 Mawrth 2027, ond y caiff ei roi yn ôl ar y rhestr rhenti a'i ailosod yn ystod 2027–28, ni fyddai'n rhan o ddull cyfrifo'r amlen rhenti ar gyfer 2027–28. Fodd bynnag, byddai'n cael ei gynnwys yn null cyfrifo'r amlen rhenti ar gyfer blwyddyn ariannol 2028-29.

C. Beth fydd yn digwydd os daw eiddo yn wag a bod angen gwneud gwaith arno cyn y gellir ei ailosod? Eiddo gwag nodweddiadol: Fel arfer, byddai eiddo sy'n wag dros dro rhwng tenantiaethau, gan gynnwys pan fo angen gwneud gwaith arferol arno cyn y gellir ei ailosod, yn aros ar restr rhenti'r landlord ac yn parhau i gael ei gynnwys yn null cyfrifo'r amlen rhenti. Eiddo gwag strategol hirdymor: Mae eiddo a gedwir yn wag yn fwriadol am gyfnod hwy am resymau strategol neu weithredol, ac a gaiff ei dynnu oddi ar restr rhenti'r landlord, yn cael ei drin yn wahanol. Os na fydd ar y rhestr rhenti ar 31 Mawrth 2027, ond y caiff ei roi yn ôl ar y rhestr rhenti a'i ailosod yn ystod 2027-28, ni fyddai'n cael ei gynnwys yn null cyfrifo'r amlen rhenti ar gyfer 2027-28, ond byddai'n cael ei gynnwys ar gyfer 2028-29.

C. Sut mae cartrefi newydd, cartrefi wedi'u haddasu neu gartrefi a gaffaelwyd yn cael eu trin at ddibenion yr amlen rhenti? At ddibenion yr amlen rhenti, y brif ystyriaeth yw a oedd y cartref yn rhan o stoc dai osodadwy'r landlord ar 31 Mawrth. Rhaid cynnwys cartrefi a oedd wedi'u cwblhau ac ar gael i'w gosod erbyn 31 Mawrth yn stoc y landlord ac o fewn yr amlen rhenti ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Gellir trin cartrefi nad oeddent yn rhan o stoc dai osodadwy'r landlord ar 31 Mawrth ac a osodir fel tai cymdeithasol am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol y tu allan i'r amlen rhenti ar gyfer y flwyddyn honno. Gall hyn gynnwys cartrefi newydd, swyddfeydd a addaswyd yn gartrefi preswyl, cartrefi newydd a grëwyd drwy ailgyflunio, ac eiddo a gaffaelwyd neu a brynwyd yn ôl, ar yr amod eu bod yn bodloni'r amodau hyn. P'un a yw cartref y tu allan i'r amlen rhenti ar gyfer y flwyddyn honno ai peidio, rhaid i landlordiaid cymdeithasol sicrhau bod y rhent cychwynnol yn fforddiadwy.

C. Sut mae fforddiadwyedd yn cael ei asesu? Fel rhan o'r broses flynyddol o bennu rhenti, mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gynnal eu hasesiadau eu hunain o fforddiadwyedd er mwyn sicrhau eu hunain fod rhenti a thaliadau gwasanaeth yn fforddiadwy i'w tenantiaid.

C. Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfedd â'r Safon Rhenti? Mae cydymffurfedd â'r Safon Rhenti yn orfodol a chaiff ei fonitro drwy'r Ffurflen Monitro Hunanardystio Flynyddol, a gwblheir gan bob landlord cymdeithasol. Mae'r ffurflen fonitro yn helpu i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd a bod y Safon yn cael ei rhoi ar waith yn gyson ym mhob rhan o'r sector. Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i asesu cydymffurfedd a nodi unrhyw feysydd lle gallai fod angen rhagor o wybodaeth neu sicrwydd. Er mwyn helpu i sicrhau tryloywder a gwelliant parhaus, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu canfyddiadau ar lefel sector ac enghreifftiau o arferion da â landlordiaid cymdeithasol. Mae hyn yn helpu landlordiaid i ddysgu oddi wrth ei gilydd, yn hyrwyddo cysondeb o ran dull gweithredu ac yn helpu i sicrhau bod y Safon yn cael ei rhoi ar waith yn effeithiol ym mhob rhan o'r sector.

C. Beth fydd yn digwydd os bydd landlord yn wynebu problemau o ran hyfywedd ariannol? Rhaid i landlordiaid cymdeithasol roi gwybod i Lywodraeth Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol os bydd pryderon am effaith y Safon Rhenti ar eu cynlluniau busnes, eu hyfywedd ariannol neu eu gallu i gyflawni eu rhwymedigaethau i denantiaid neu fenthycwyr. Os bydd landlordiaid cymdeithasol o'r farn bod unrhyw faterion sy'n ymwneud â hyfywedd ariannol wedi'u nodi, dylent godi'r mater gyda'r canlynol: Awdurdodau Lleol: [email protected] Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig: [email protected]

C. A fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cydgyfeirio rhenti? Ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu fframwaith fforddiadwyedd, mae ymchwil archwiliadol yn cael ei gwneud i gydgyfeirio rhenti, a disgwylir i adroddiad gael ei gyhoeddi yn yr Hydref. Bydd y gwaith hwn yn helpu i greu sylfaen dystiolaeth wrthrychol er mwyn asesu manteision, risgiau a goblygiadau ymarferol posibl unrhyw ddull gweithredu yn y dyfodol a bydd yn llywio'r gwaith o ystyried a fyddai cydgyfeirio rhenti yn briodol yng Nghymru. Ar ôl ystyried yr adroddiad ac arweiniad y Gweinidog, ymgymerir â gweithgarwch ymgysylltu manwl â'r sector a rhanddeiliaid eraill cyn ystyried unrhyw ddull polisi yn y dyfodol.

C. Ble galla i gael rhagor o wybodaeth neu eglurhad? I gael rhagor o wybodaeth neu eglurhad, cysylltwch â'r tîm Polisi Rhent Cymdeithasol yn [email protected]