Ymunwch â chydweithwyr proffesiynol ym maes ymgysylltu ar gyfer sesiwn drafod anffurfiol, sydd ar agor i aelodau yn unig

Sesiwn Ford Gron ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu – Gogledd Cymru

Dydd Llun 7 Rhagfyr 2026:  12pm – 3pm

Swyddfa COS, 77 Ffordd Conway, Bae Colwyn Bay, LL29 7LN

Ymunwch â chydweithwyr proffesiynol ym maes ymgysylltu ar gyfer sesiwn drafod anffurfiol, sydd ar agor i aelodau yn unig. TMae hon yn gyfle i gysylltu â chydweithwyr, rhannu profiadau, dathlu llwyddiannau ymgysylltu o 2026, a thrafod y camau nesaf o ran ymgysylltu â thenantiaid a chyfathrebu.

Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio:
  • Beth yw'r prif themâu ar gyfer ymgysylltu â thenantiaid a chyfathrebu yn 2027?
  • Ar gyfer beth y dylai sefydliadau tai fod yn paratoi?
  • Pa ddulliau ymgysylltu a mentrau a weithiodd yn dda yn 2026?

Bydd digon o gyfleoedd i rwydweithio, trafod a rhannu syniadau ymarferol mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol.

Dyma ychydig o fanylion ymarferol: 
  • Mae’r sesiwn yn dechrau’n brydlon am 12pm, a bydd te, coffi, brechdanau a lluniaeth ysgafn ar gael.
  • Byddwn yn gorffen erbyn 3:00pm.
  • Mae’r lleoliad ddim ond 14 munud ar droed o Orsaf Drenau Bae Colwyn; fel arall, fel arfer mae digon o le i barcio ar y stryd ar ffyrdd cyfagos.

Mae’r diwyddiad yn rhad ac am ddim ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu sy’n aelodau o TPAS Cymru yn unig.

Sut i archebu
  • I archebu eich lle ebostiwch: [email protected]
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod am unrhyw anghenion penodol – er enghraifft, gofynion dietegol, mynediad i gadeiriau olwyn, parcio i bobl anabl, ac ati – erbyn y dyddiad.

Dyddiad cau: Dydd Iau, 3 Rhagfyr - 4pm

Yn addas ar gyfer: Gweithwyr proffesiynol ymgysylltu â thenantiaid

Cost: AM DDIM – ar gyfer aelodau TPAS Cymru yn unig

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sesiwn Ford Gron ar gyfer gweithwyr proffesiynol ymgysylltu – Gogledd Cymru

Dyddiad

Dydd Llun 07 Rhagfyr 2026, 12:00 - 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Llun 03 Rhagfyr 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

david lloyd

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Centre of Sign Sight Sound (COS) Office

Cyfeiriad y Lleoliad

77 Conway Rd
Colwyn Bay
Conwy
LL29 7LN

01492 530013

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Mae'r archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad wedi cau. I archebu digwyddiad hwn, ffoniwch ni ar 029 2023 7303 neu 01492 593046

Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X