Ni ddylai cael eich clywed byth ddibynnu ar eich cefndir. Ond ar hyn o bryd, mae anghydraddoldebau hiliol sydd eisoes yn bodoli ym maes tai, ynghyd â’r cynnydd mewn troseddau casineb hiliol yng Nghymru, yn gwneud hynny’n hynod anodd i lawer o denantiaid o leiafrifoedd ethnig.

ADRODDIAD MEWNWELEDIAD: Cipolwg ar brofiadau tenantiaid o leiafrifoedd ethnig o ran ymgysylltu yng Nghymru

Ni ddylai cael eich clywed byth ddibynnu ar eich cefndir. Ond ar hyn o bryd, mae anghydraddoldebau hiliol sydd eisoes yn bodoli ym maes tai, ynghyd â’r cynnydd mewn troseddau casineb hiliol yng Nghymru, yn gwneud hynny’n hynod anodd i lawer o denantiaid o leiafrifoedd ethnig.

Mae hyn yn effeithio ar denantiaid o leiafrifoedd ethnig, staff o leiafrifoedd ethnig a chymunedau. Mae'n arwain at niwed go iawn i bobl a'u teuluoedd. Mae'n niweidio Cymru – lle mae llawer yn falch o'i alw'n gartref.  

Sut olwg sydd ar ymgysylltu ystyrlon â thenantiaid pan fyddwch yn teimlo bod eich pryderon yn cael eu diystyru? Pan gewch gyngor i beidio â gwneud cais am eiddo mewn rhywle, am eich bod yn cael gwybod y byddwch yn debygol o wynebu camdriniaeth hiliol yno? Pan gaiff adroddiadau am hiliaeth eu trin fel anghydfodau cyffredin rhwng cymdogion? Neu pan nad yw archwiliadau dro ar ôl tro o leithder a llwydni yn arwain at fawr o gamau gweithredu?

Dyma rai o'r cwestiynau a archwilir yn ein hadroddiad mewnwelediad newydd, Cipolwg ar Brofiadau Tenantiaid o Leiafrifoedd Ethnig o ran Ymgysylltu yng Nghymru.

Yn TPAS Cymru, credwn fod pob tenant yn bwysig. Ond er mwyn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, rhaid deall nad yw pob tenant yn profi materion tai, cyfathrebu gan landlordiaid, na chyfranogiad yn yr un ffordd.

Er mwyn archwilio hyn ymhellach, buom yn siarad yn uniongyrchol â 30 o denantiaid o leiafrifoedd ethnig ledled Cymru drwy dri grŵp ffocws ar-lein, gan ddod â thenantiaid yn y sector rhentu preifat a thenantiaid tai cymdeithasol o amrywiaeth o gefndiroedd a chymunedau ynghyd. Ni ddefnyddiwyd enwau go iawn yn yr adroddiad hwn, er mwyn diogelu eu hunaniaethau.

Roedd eu profiadau'n amrywiol. Disgrifiodd rhai berthnasoedd cadarnhaol gyda'u landlordiaid, gan deimlo eu bod yn cael eu parchu, eu cefnogi a'u bod yn cael eu gwrando. Rhannodd eraill brofiadau anodd o hiliaeth, cyfathrebu gwael, atgyweiriadau heb eu datrys a theimlo nad oedd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif.

Roedd un neges yn sefyll allan: mae ymgysylltu ystyrlon yn ymwneud â mwy na rhoi cyfle i denantiaid siarad. Mae’n ymwneud â’r hyn sy’n digwydd pan fyddant yn gwneud hynny.

Pan anwybyddir hiliaeth, gall tenantiaid deimlo nad oes neb yn gwrando arnynt. Ac o ystyried y cynnydd mewn troseddau casineb sy’n gysylltiedig â hil, mae angen cymryd hyn o ddifrif.

Felly, beth sydd angen newid?

Mae ein canfyddiadau yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth ehangach, yn hytrach na darlun pendant o brofiad pob tenant o leiafrif ethnig yng Nghymru. Ond maent yn tynnu sylw at feysydd pwysig lle gall landlordiaid a’r sector tai ehangach fyfyrio, dysgu a chymryd camau.

Rydym yn annog landlordiaid i ystyried rhai cwestiynau allweddol a gweithredu yn eu cylch

1.Ydym ni'n cydnabod hiliaeth a gwahaniaethu yn hyderus?

2. Ydym ni'n gweithredu ar sail yr hyn y mae tenantiaid yn ei ddweud wrthym?

3. Ydym ni'n gwneud ymgysylltu â thenantiaid yn wirioneddol gynhwysol?

Symud o gynrychiolaeth i newid ystyrlon

Gwyddom na ellir mynd i'r afael ag anghydraddoldeb tai drwy ymgysylltu yn unig. Ond gall ymgysylltu ystyrlon helpu landlordiaid i ddeall profiadau pob tenant yn well, nodi lle mae gwasanaethau'n methu a gweithio gyda chymunedau i ddatblygu atebion gwell.

Mae hynny'n golygu mynd y tu hwnt i ofyn pwy sy'n cael ei gynrychioli o amgylch y bwrdd. Rhaid inni hefyd ofyn pwy sy'n teimlo'n gyfforddus yn siarad, pryderon pwy sy'n cael eu cymryd o ddifrif ac a all tenantiaid weld effaith eu cyfranogiad.

Mae ein hadroddiad yn cynnig cyfle i'r sector wrando, myfyrio ac ystyried beth arall y gellir ei wneud.

Oherwydd, yn y pen draw, nid yw ymgysylltu da â thenantiaid yn ymwneud â thicio blwch yn unig. Mae'n ymwneud â meithrin ymddiriedaeth, trin pobl ag urddas, a sicrhau bod gan bob tenant gyfle ystyrlon i lunio'r gwasanaethau a'r cymunedau y maent yn eu galw'n gartref.

Mae pob tenant yn bwysig. Nawr, rhaid i ni sicrhau bod ein gweithredoedd yn adlewyrchu hynny, a pharhau i wneud hynny.

Darllenwch yr adroddiad llawn: Cipolwg ar Brofiadau Tenantiaid o Leiafrifoedd Ethnig o ran Ymgysylltu yng Nghymru.