Mwy na Thai: Grym y Gymuned
Cymunedau Prosiect Eden yng Nghynhdledd TPAS Cymru
Geiriau gan Niaomh Convery – Rheolwr Rhaglen Cymru
Hoffem ddiolch yn gynnes i bawb a fynychodd Gynhadledd Tai TPAS Cymru, ac wrth gwrs i’r trefnwyr am ddod â ni i gyd ynghyd!
Roedd yn braf iawn bod yn rhan o ofod oedd yn llawn pobl sydd, fel ninnau, yn angerddol dros y gymuned ac yn gwneud eu gorau i ddod â phobl ynghyd ledled Cymru
Treuliasom ddau ddiwrnod yn cysylltu â phobl o bob cwr o Gymru, gan gael sgyrsiau cyfoethog ac amrywiol am bopeth – o’r ffordd y gall ‘Y Cinio Mawr’ ddod â phobl at ei gilydd mewn cyfnodau o raniad, i’r angen cynyddol am leoedd lle gall pobl gyfarfod, cysylltu a threulio amser gyda’i gilydd, yn ogystal ag effaith yr argyfwng hinsawdd ar ein cymunedau. Un uchafbwynt arbennig i ni oedd derbyn diolch o waelod calon (a chwtsh!) i’n Swyddog Ymgysylltu, Sophia, am ddod â theimlad o ysgafnder a llawenydd trwy ein gwaith.
Pan nad oeddem yn trafod popeth yn ymwneud â chymuned, cawsom y pleser o wrando ar siaradwyr gwych. Ymhlith y rhai a gafodd y croeso mwyaf roedd sgwrs ysgogol gan 'Only Human' ar stigma a chynhwysiant mewn perthynas â chaethiwed, a sesiwn ardderchog ar gynhwysiant digidol gan Hafod.
Mae dod at ein gilydd mewn digwyddiadau fel TPAS wir yn ein hatgoffa pam rydym i gyd yn gwneud yr hyn rydym yn ei wneud. Nawr, mwy nag erioed, mae angen i ni sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, ei werthfawrogi a’i ddathlu. Gyda’n hymrwymiad ar y cyd i ddod â phobl ynghyd ac adeiladu cymunedau cryfach, mwy cysylltiedig, ni allwn ddisgwyl i weithio gyda TPAS Cymru i wneud i sicrhau fod pethau da yn digwydd.
Diolch am ein croesawu!
Niaomh Convery – Rheolwr Rhaglen Cymru
Cymunedau Prosiect Eden
25 Tachwedd 2026