Dydd Iau 7 Ebrill 2022: 10am – 12:30pm
Mae cynnwys tenantiaid mewn penderfyniadau strategol a llywodraethu yn ddisgwyliad allweddol yn safonau rheoleiddio presennol y Fframwaith Rheoleiddiol, ond beth allai, ac a ddylai fod, yn ymarferol?
Ymunwch â ni ar gyfer y gweithdy ar-lein newydd hwn lle byddwn yn archwilio ystod o opsiynau a all alluogi a chefnogi tenantiaid i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol eich sefydliad. Yn ogystal ag archwilio’r opsiynau sydd ar gael byddwn hefyd yn edrych ar yr hyn sydd angen bod yn ei le i wneud iddynt weithio.
Pwy ddylai fynychu?
Mae’r sesiwn yn addas ar gyfer – Timau Gweithredol, Staff Ymgysylltu, Tenantiaid, Staff Llywodraethu ac aelodau’r Bwrdd
Cost
Pethau i wybod:
-
Sesiwn ar-lein drwy Zoom yw hon
-
Gellir defnyddio ystafelloedd trafod i alluogi trafodaeth a rhannu arfer
-
Gan ei fod yn sesiwn ryngweithiol bydd gofyn i chi droi camerâu ymlaen
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Archebwch eich lle drwy'r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwscO-hrzspHNBFvnBOSqnjzZCu6FqKEa9Q
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Telerau ac Amodau Archebu - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Cynnwys Tenantiaid mewn penderfyniadau strategol a llywodraethu: archwilio'r opsiynau
Dyddiad
Dydd Iau
07
Ebrill
2022, 10:00 - 12:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 06 Ebrill 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
david lloyd
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad