Bydd y sesiwn gweithdy yma yn rhoi cyfle i chi nodi'r hyn y bydd angen i chi ei wneud o bosib er mwyn gweithio tuag at weithredu'r Ddeddf

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): Paratoi i Weithredu GOGLEDD

Cafodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ei basio yn gyfraith ym mis Ionawr 2016 a chaiff ei roi ar waith yn fuan, gan effeithio ar bron pob tenantiaeth bresennol yng Nghymru. Bydd y Ddeddf yn effeithio ar denantiaid tai cymdeithasol o gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol tai sy'n gweithio yn y sector.  
 
  • A ydych yn ymwybodol o'r prif newidiadau?
  • A oes gennych gynllun i gyfathrebu'r newidiadau hyn i denantiaid?
  • A oes gennych gynllun i ymgynghori â thenantiaid lle bo angen?
  • Ydych chi'n barod i weithredu'r Ddeddf?
 
Bydd y sesiwn gweithdy yma yn rhoi cyfle i chi nodi'r hyn y bydd angen i chi ei wneud o bosib er mwyn gweithio tuag at weithredu'r Ddeddf.
 
Bydd y gweithdy yn cynnwys:
  • Trosolwg o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru)
  • Archwilio'r prif newidiadau yn y Ddeddf
  • Archwilio sut i gyfathrebu â thenantiaid wrth weithredu'r Ddeddf a'i effaith 
  • Archwilio sut i ymgysylltu ac ymgynghori â thenantiaid lle bo angen
 
(Ni fydd y gweithdy hwn yn gyfystyr â chyngor cyfreithiol neu broffesiynol)
 
Yn addas ar gyfer:
Staff a Thenantiaid Cymdeithasau Tai ac Awdurdodau Lleol, Aelodau’r Bwrdd ac Aelodau Lleol
 
Amser
9:30am – 12:45pm
(ni ddarperir cinio yn y sesiwn hanner diwrnod yma
 
Cwblhewch a dychwelwch y ffurflen archebu yma neu defnyddiwch y system archebu ar lein isod
 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): Paratoi i Weithredu GOGLEDD

Dyddiad

Dydd Iau 21 Medi 2017, 09:30 - 12:45

Archebu Ar gael Tan

Dydd Iau 07 Medi 2017

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Gwybodaeth a mewnwelediad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

[email protected]

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Porth Eirias

Cyfeiriad y Lleoliad

The Promenade
Colwyn Bay
Conwy
LL29 8HH

01492 593046

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X