Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff, aelodau'r Bwrdd, gweithwyr tai proffesiynol neu wasanaethau cymorth sy'n gweithio yn y sector sydd â diddordeb mewn sut y gellir defnyddio TikTok fel arf effeithiol ar gyfer marchnata, cyfathrebu â thenantiaid a'r cyhoedd a'u haddysgu.

Pam mae TikTok yn rhan hanfodol o'ch strategaeth gyfathrebu

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022, 1-2pm

Gyda dros 17 miliwn o ddefnyddwyr dyddiol yn y DU yn unig, a thros biliwn ledled y byd, TikTok yw un o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy'n tyfu gyflymaf yn ein cymdeithas. Ymhlith pobl iau mae'n rhagori ar sianeli presennol fel Facebook a Twitter. Wedi'i wneud yn iawn, gall fod yn arf gwych i ymgysylltu a chyfathrebu ac ymgysylltu â thenantiaid a'ch cymunedau. Gyda'r sector tai bellach yn dod yn fwy gweladwy ar TikTok ledled y DU, nawr yw’r amser i uwchsgilio a datblygu strategaeth glir ar gyfer ei ddefnyddio'n llwyddiannus.

Yn y sesiwn hon byddwn yn dangos elusennau llwyddiannus a brandiau trydydd sector sy'n gwneud pethau'n iawn. Mae TPAS Cymru yn eich gwahodd i ddod i’r sesiwn hynod ddiddorol hon i ddysgu mwy am sut y gellir defnyddio TikTok fel offeryn ymgysylltu ym maes tai. Ymunwch â ni i glywed mewnwelediad uniongyrchol gan arbenigwr yn y maes hwn a dysgu triciau a mewnwelediad newydd unigryw y gallwch chi eu cymryd i greu'r strategaeth ar eich cyfer chi.

Ein siaradwr arbenigol yw
  • Emily Long, academydd o Brifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn astudio TikTok a'i ddefnydd mewn tai a sectorau ymgyrchu ehangach
  • Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal a sesiwn holi-ac-ateb yn cael ei hwyluso gan Eleanor Speer a David Wilton o TPAS Cymru

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff, aelodau'r Bwrdd, gweithwyr tai proffesiynol neu wasanaethau cymorth sy'n gweithio yn y sector sydd â diddordeb mewn sut y gellir defnyddio TikTok fel arf effeithiol ar gyfer marchnata, cyfathrebu â thenantiaid a'r cyhoedd a'u haddysgu.  

Cost
Staff (aelodau) - £59 + TAW

Pawb arall - £119 + TAW

Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZcuf-6orTojG9S9JrbZB7b-uuzDKx2PqIz-

Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook

Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Pam mae TikTok yn rhan hanfodol o'ch strategaeth gyfathrebu

Dyddiad

Dydd Mawrth 12 Gorffennaf 2022, 13:00 - 14:00

Archebu Ar gael Tan

11 Gorffennaf 2022

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

Landlordiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad

Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X