Bu newidiadau enfawr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi golygu bod yn rhaid inni addasu’r ffordd yr ydym yn cynnal craffu

Sut i ail-gychwyn eich gwaith Craffu

Dydd Mercher, 18 Mai: 10.30 – 12.30 

Mae craffu yn ffordd werthfawr ac effeithiol o wneud yn siŵr bod tenantiaid yn cael gwasanaethau o ansawdd uchel gan eu landlord. P'un a oes gennych chi ar hyn o bryd neu, yn ystyried sefydlu panel craffu, mae'r gynhadledd hon ar eich cyfer chi!

Bu newidiadau enfawr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi golygu bod yn rhaid inni addasu’r ffordd yr ydym yn cynnal craffu.

Clywch gan ddau landlord sydd wedi addasu i weithio mewn ffordd wahanol i wneud yn siŵr bod craffu yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn werthfawr i denantiaid a landlordiaid ar gyfer y dyfodol.

Bydd Bron Afon yn rhannu eu profiadau o weithio ar-lein fel Panel Craffu. Beth yw'r manteision a'r anfanteision? Sut mae’r ffordd newydd hon o weithio wedi eu helpu i fod yn fwy cynhwysol fel panel? Sut bydd y panel yn gweithio yn y dyfodol?

Bydd LiveWest yn siarad am eu profiad o’r broses graffu yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf a sut maen nhw’n edrych i’r dyfodol.

Bydd David Lloyd TPAS Cymru hefyd yn rhannu rhai syniadau ymarferol ynghylch sut y gallwn symud Tenant Graffu ymlaen i sicrhau ei fod yn parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i denantiaid a’r gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer tenantiaid, staff, aelodau bwrdd ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn Tenant Graffu.

Cost:
RHAD AC AM DDIM yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru
 

Archebwch eich lle drwy’r ddolen zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZ0ocO2trTkpHdHaW_d5tLwT4sZMAYdQvQf-

Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach.

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Sut i ail-gychwyn eich gwaith Craffu

Dyddiad

Dydd Mercher 18 Mai 2022, 10:30 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

16 Mai 2022

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X