Dydd Mawrth 24 Mai 2022: 10.30 – 12pm
A yw Cyfranogiad Tenantiaid wrth wraidd popeth y mae eich sefydliad yn ei wneud? Ydi diwylliant eich sefydliad yn byw ac yn anadlu CT? Bydd y sesiwn hwyliog a rhyngweithiol hon yn rhoi cyfle i chi asesu a graddio eich perfformiad o amgylch CT a myfyrio ar sut y gallwch gydymffurfio â’r Safon Rheoleiddio 4 newydd sy’n cyfeirio at ‘Creu diwylliant sy’n gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo Cyfranogiad Tenantiaid’.
Mae’r sesiwn hon yn addas ar gyfer aelodau bwrdd, uwch reolwyr a staff sydd eisiau myfyrio ar y diwylliant o ymgorffori CT yn eu sefydliad ac ystyried posibiliadau ar gyfer gwella.
Pethau i wybod:
-
Sesiwn ar-lein drwy Zoom yw hon
-
Gellir defnyddio ystafelloedd trafod i alluogi trafodaeth a rhannu arfer
-
Mae lleoedd yn brin felly archebwch yn gynnar
-
Gan ei fod yn sesiwn ryngweithiol bydd gofyn i chi droi camerâu ymlaen
-
Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio
Cost:
Staff (aelodau) - £49
Pawb arall - £99
Archebwch eich lle trwy’r ddolen Zoom yma https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZYoce-rrjotHNEwVU-E9k0eOIcJEYdtXI3o
Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook
Telerau ac Amodau Archebu - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
-
Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected] Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
-
Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
-
Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
-
Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
-
Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgorffori Cyfranogiad Tenantiaid: graddiwch eich perfformiad
Dyddiad
Dydd Mawrth
24
Mai
2022, 10:30 - 12:00
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 19 Mai 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Hyfforddiant
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Helen Williams
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad