MAE'R SESIWN HON YN LLAWN
Dydd Iau 9 Mehefin 2022 10.00am – 11.30am
Ymunwch â ni am sesiwn gwybodaeth a thrafodaeth ar y diweddariadau arfaethedig i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae ymgynghoriad ffurfiol ar hyn o bryd / ar fin agor.
Mae SATC wedi bod o gwmpas ers 2002 ac mae’n gosod y safon ar gyfer pob cartref cymdeithasol presennol yng Nghymru. Mae’n cwmpasu popeth yn y cartref e.e. effeithlonrwydd ynni, ceginau, ystafelloedd ymolchi, gerddi. Mae manylion y safon gyfredol i'w gweld yn y dolenni hyn:
Mae SATC wedi cyflawni llawer, ac wedi gwella cartrefi dros 20 mlynedd ond mae angen fersiwn newydd o SATC wedi'i diweddaru bellach. Bydd yn edrych yn gyfarwydd ond bydd yn anelu at ein gyrru ymlaen wrth fynd i’r afael â chynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio a materion eraill megis lloriau ledled y cartref ac effeithlonrwydd dŵr.
Rydym am wneud y mwyaf o'r cyfle - mae'r SATC newydd yn debygol o fod gyda ni am amser hir ac rydym am gael y safon orau y gallwn. I wneud hynny, mae angen barn tenantiaid a staff y mae'r newidiadau yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Yn y sesiwn hon byddwn yn casglu adborth ac yn darparu gwybodaeth ar sut y gallwch ymateb yn uniongyrchol i'r ymgynghoriad.
Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer staff sydd â diddordeb yn SATC 2.
Cost:
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgynghoriad SATC - Staff
Dyddiad
Dydd Iau
09
Mehefin
2022, 10:00 - 11:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Mercher 08 Mehefin 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
Landlordiaid
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad