MAE'R SESIWN HON YN LLAWN
Dydd Mwrth 12 Gorffennaf 10- 11.30am
Mae hon yn sesiwn ymgynghori ychwanegol ar gyfer y tenantiaid a'r staff hynny na allant gael lle ar 8 neu 9 Mehefin
Ymunwch â ni am sesiwn gwybodaeth a thrafodaeth ar y diweddariadau arfaethedig i Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC). Mae ymgynghoriad ffurfiol ar hyn o bryd ar agor.
Mae SATC wedi bod o gwmpas ers 2002 ac mae’n gosod y safon ar gyfer pob cartref cymdeithasol presennol yng Nghymru. Mae’n cwmpasu popeth yn y cartref e.e. effeithlonrwydd ynni, ceginau, ystafelloedd ymolchi, gerddi. Mae manylion y safon gyfredol i'w gweld yn y dolenni hyn:
Mae SATC wedi cyflawni llawer, ac wedi gwella cartrefi dros 20 mlynedd ond mae angen fersiwn newydd o SATC wedi'i diweddaru bellach. Bydd yn edrych yn gyfarwydd ond bydd yn anelu at ein gyrru ymlaen wrth fynd i’r afael â chynhesrwydd fforddiadwy a datgarboneiddio a materion eraill megis lloriau ledled y cartref ac effeithlonrwydd dŵr.
Rydym am wneud y mwyaf o'r cyfle - mae'r SATC newydd yn debygol o fod gyda ni am amser hir ac rydym am gael y safon orau y gallwn. I wneud hynny, mae angen barn tenantiaid a staff y mae'r newidiadau yn effeithio'n uniongyrchol arnynt. Yn y sesiwn hon byddwn yn casglu adborth ac yn darparu gwybodaeth ar sut y gallwch ymateb yn uniongyrchol i'r ymgynghoriad.
Mae’r sesiwn ymgynghori ychwanegol hon ar gyfer y tenantiaid a'r staff hynny nad oedd yn gallu cael lle ar 8 neu 9 Mehefin.
Sylwch NAD yw hon yn sesiwn ymgynghori dechnegol. Fel TPAS Cymru rydym wedi trefnu’r sesiwn hon ar gyfer tenantiaid, a staff rheng flaen sy’n gweithredu mewn rôl cyswllt/tai â chymorth sy’n gallu rhannu barn tenantiaid am SATC 2 a/neu sut a pha wybodaeth SATC 2 sy’n cael ei chyfleu i denantiaid ynghylch sut y caiff ei roi ar waith.
NODER: Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal sesiynau ymgynghori ar gyfer ALlau a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar agweddau technegol SATC 2 ar 7 a 14 Mehefin
Cost:
Mae’r digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ac yn arbennig ar gyfer aelodau TPAS Cymru
Gwybodaeth am y digwyddiad
Teitl y Digwyddiad
Ymgynghoriad SATC – Staff a Thenantiaid SESIWN YCHWANEGOL
Dyddiad
Dydd Mawrth
12
Gorffennaf
2022, 10:00 - 11:30
Archebu Ar gael Tan
Dydd Iau 07 Gorffennaf 2022
Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan
Math o ddigwyddiad
Gwybodaeth a mewnwelediad
Yn addas ar gyfer
I gyd
Cost
Members: £0.00+ VAT
Non-Members: £0.00 + VAT
Siaradwr
Guest Speaker
Gwybodaeth am y Lleoliad
Enw Lleoliad
Online
Cyfeiriad y Lleoliad