Bydd y sesiwn hyfforddi 2 awr hon yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i’w gwneud yn haws i denantiaid/preswylwyr, pwy bynnag ydynt, i gymryd rhan a lleisio eu barn.

Ymgysylltu cynhwysol – Croeso i Bawb!

Dydd Iau, 23 Mehefin 2022:  1- 3pm

Mae’r byd wedi newid dros y 2 flynedd ddiwethaf ac felly hefyd y ffordd y mae landlordiaid, tenantiaid a chymunedau yn ymgysylltu â’i gilydd.

Bydd y sesiwn hyfforddi 2 awr hon yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i’w gwneud yn haws i denantiaid/preswylwyr, pwy bynnag ydynt, i gymryd rhan a lleisio eu barn..

Byddwn yn edrych ar;
  • Pam cymryd rhan
  • Angen cyrraedd grwpiau a chlywed lleisiau gwahano
  • Gwneud eich cyfarfodydd a digwyddiadau yn groesawgar i bawb
  • Dysgu arfer da

Mae'r sesiwn hon yn addas ar gyfer tenantiaid a phreswylwyr sydd am annog eraill i gymryd rhan yn eu grwpiau tenantiaid cymunedol/landlordiaid.

Cost:
Tenantiaid – £39 + TAW
Pawb arall - £59 + TAW
Datblygwyd y cwrs hwn fel partneriaeth rhwng  a TPAS Cymru gan ddefnyddio arbenigedd a rennir o’r ddau sefydliad

Archebwch eich lle drwy’r ddolen Zoom yma: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZwvfuCtpzkrEtKQfK_aKhytGLHDQhQHsax8

Noder – ar ôl i chi gofrestru gan trwy'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio eich blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi cyfle i chi arbed y manylion i galendr electronig, fel Outlook


Telerau Canslo - ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl

  • Rhaid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Ymgysylltu cynhwysol – Croeso i Bawb!

Dyddiad

Dydd Iau 23 Mehefin 2022, 13:00 - 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mercher 22 Mehefin 2022

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

Tenantiaid

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

Canllaw Archebu

1. Bydd dolen i ffurflen archebu ar-lein ar gyfer y digwyddiad ar-lein wedi'i darparu. Dilynwch y ddolen a chwblhewch y ffurflen archebu.

AGOS X

Cancellation Policy – for paid online events