Ydych chi'n gwybod pwy sydd ddim yn ymgysylltu â'ch sefydliad? Ydych chi'n cael trafferth i ymgysylltu â grwpiau amrywiol? Bydd y sesiwn hyfforddi 1 diwrnod yn edrych ar y rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer grwpiau amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol.

Ymgysylltu â Grwpiau Amrywiol a Heb Gynrychiolaeth Ddigonol

Ydych chi'n gwybod pwy sydd ddim yn ymgysylltu â'ch sefydliad? Ydych chi'n cael trafferth i ymgysylltu â grwpiau amrywiol? Bydd y sesiwn hyfforddi 1 diwrnod yn edrych ar y rhwystrau i gyfranogiad ar gyfer grwpiau amrywiol a heb gynrychiolaeth ddigonol.

Bydd yn archwilio sut y gallwch oresgyn y rhwystrau hyn drwy hyrwyddo amrywiaeth o gyfleoedd ymgysylltu / cyfranogi a chreu amgylcheddau cynhwysol.

Ar y cwrs yma byddwch yn:

  • Archwilio beth mae ymgysylltiad / cyfranogiad yn ei olygu
  • Nodi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol a'r grwpiau a ddiogelir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
  • Cydnabod sut i gael gwared ar rwystrau i gyfranogi / ymgysylltu a chyfleoedd dylunio ar gyfer ymgysylltu
  • Adnabod y camau nesaf i greu amgylcheddau croesawgar a diogel ar gyfer ymgysylltu

Mae'r cwrs yma ar gyfer:

Unrhyw un sydd eisiau gwybod am y ffyrdd gorau i ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Mae’r cwrs yma wedi ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Tai Pawb a TPAS Cymru gan ddefnyddio arbennigedd y ddwy sefydliad.  Mae’r cwrs wedi ei ddylunio i adlewyrchu arferion da ac fe fydd yn cael ei hwyluso gan hyfforddwyr profiadol o’r ddwy sefydliad.

Gellir archebu ar-lein isod, neu trwy lawrlwytho'r ffurflen archebu yma a'i ddychwelyd atom erbyn y dydddiad cau o 2 Hydref 2018

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Ymgysylltu â Grwpiau Amrywiol a Heb Gynrychiolaeth Ddigonol

Dyddiad

Dydd Mercher 17 Hydref 2018, 10:00 - 15:00

Archebu Ar gael Tan

Dydd Mercher 10 Hydref 2018

Math o ddigwyddiad

Hyfforddiant

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Helen Williams

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

MRC Wales Ltd

Cyfeiriad y Lleoliad

Oxford Rd
Llandrindod Wells
Powys
LD1 6AH

01597 822230

Google Map Icon

Enw
Cyfeiriad ebost
 
Diwrnod Llawn o Hyfforddiant


Canllaw Archebu

1. Rhowch eich Enw a'ch cyfeiriad E-bost, a dewiswch faint o docynnau yr hoffech eu harchebu, yna cliciwch ar 'Parhau i Archebu'.

2. Os ydych yn archebu 1 tocyn, rhowch eich manylion a chliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Yna fe welwch eich manylion yn y blwch oren ar y gwaelod.

3. Os ydych wedi dewis mwy nag 1 tocyn, rhowch fanylion y cynrychiolwr cyntaf fel yng Ngham 2, cliciwch "Arbed a Chadarnhau eich Archeb" a sgroliwch yn ôl i fyny i roi manylion eich ail gynrychiolwr. Ailadroddwch Gam 3 nes bod eich holl gynrychiolwyr wedi eu hychwanegu.

4. Unwaith y byddwch wedi ychwanegu gwybodaeth am eich holl gynrychiolwyr, fe welwch y botwm "Ychwanegu Cynrychiolwr" yn newid i "Arbed a Chadarnhau eich Archeb". Unwaith y byddwch yn clicio’r bowm yma, fe welwch flwch gwyrdd gyda "Llwyddiant" yn ymddangos ar eich sgrîn, a byddwch yn derbyn cadarnhad trwy e-bost eich bod wedi archebu yn llwyddiannus.

5. Gellir talu am y digwyddiad trwy BACs, neu fe fydd TPAS Cymru yn anfon anfoneb ar ôl y digwyddiad gymryd lle.

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch archeb, mae croeso i chi ein ffonio ar 029 2023 7303 neu 01492 59304

AGOS X
  1. TPAS Cymru CANNOT accept any provisional bookings.
  2. Written confirmation is required for all cancellations. Cancellations received before the closing date will be refunded, minus an administration fee of £15.00 plus VAT. No refunds will be processed after this date.
  3. Registered delegates who do not attend the conference will be liable for payment in full unless written communication is received by the cancellation date.
  4. Any changes, such as names, made to the bookings after the closing date will incur an administration fee of £15.00 plus VAT per change.
  5. TPAS Cymru may have to cancel this event. In this case we will refund any payments received. We will not refund any costs you may incur as a result of the cancellation.