Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TPAS Cymru wedi ymuno â Thai Pawb i ddarganfod mwy am ddarparu lloriau mewn cartrefi cymdeithasol sydd newydd eu gosod. Rydym yn...Darllen mwy

Lloriau (Agenda: Rhifyn 4)

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol: Lloriau: Darparu lloriau priodol mewn tai cymdeithasol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae TPAS Cymru wedi ymuno â Thai Pawb i ddarganfod mwy am ddarparu lloriau mewn cartrefi cymdeithasol sydd newydd eu gosod. Rydym yn ddiolchgar i aelodau a thenantiaid am ymateb i'r arolwg a'n helpu yn ein hymchwil.  
 
Wrth gyhoeddi ein cyd-adroddiad - 'LLORIAU' - rydym wedi darganfod bod diffyg lloriau neu garped wedi effeithio ar iechyd a lles tenantiaid. Rhestrodd y rhai a holwyd faterion fel diffyg cynhesrwydd, diogelwch a sŵn yn eu cartrefi, materion iechyd, gan gynnwys anawsterau anadlu, ac iselder. Amlygodd ymatebion tenantiaid â phlant faterion diogelwch a chynnydd mewn unigedd ac unigrwydd wrth fethu â gwahodd ffrindiau i ymweld.

Fodd bynnag, amlygodd yr adroddiad arfer da hefyd, lle gadawodd rhai landlordiaid cymdeithasol loriau presennol yn eu lle, lle bo hynny'n bosibl a thrwy gais gan denant newydd. Ar ben hynny, roedd rhai landlordiaid yn gweithio gyda sefydliadau i helpu tenantiaid i sicrhau opsiynau lloriau diogel a fforddiadwy.  
Mae'r adroddiad yn cynnwys 10 argymhelliad i Llywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol eu hystyried.  

Gellir gweld y grynodeb weithredol yma. (PDF)

Gellir gweld yr adroddiad llawn yma. (PDF)  

Cwestiynau i grwpiau tenantiaid eu gofyn:

  1. Beth yw'r rhesymau i chi dynnu carpedi pan fydd pobl yn gadael eu cartrefi?
  2. A yw'n bosibl edrych ar system, lle rydych chi'n gofyn i denantiaid pryd maen nhw'n edrych ar eu cartref newydd posib, os ydyn nhw am gadw'r carped ac y bydden nhw'n atebol amdano? Gall hwn fod yn gytundeb cytundebol
  3. Beth ydych chi'n ei wneud gyda charped pan fyddwch chi'n ei dynnu i fyny?
  4. A ydych chi'n cael effaith negyddol ar yr ôl troed carbon ac yn rhoi mwy o wastraff i safleoedd tirlenwi?
  5. A yw'n bosibl ichi wneud dadansoddiad cost o'r costau sy'n gysylltiedig â rhwygo carped a chael gwared arno. Hefyd, y costau sy'n gysylltiedig â throi eiddo gwag o gwmpas yn rheolaidd, oherwydd nad yw pobl yn aros ynddynt. Dylid hefyd ystyried y costau sy'n gysylltiedig â staff yn mynd allan i achosion ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â sŵn oherwydd diffyg lloriau, ac yna eu cymharu â chost gosod carpedi mewn gwagleoedd.
  6. A wnewch chi roi carpedi mewn gwagleoedd?
  7. A wnewch chi roi carpedi mewn adeiladau newydd?
  8. Sut fyddwch chi'n cefnogi pobl mewn cartrefi presennol sydd heb garped?

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich sgyrsiau â'ch landlordiaid. Felly e-bostiwch [email protected]