Lloriau 3: Beth sydd wedi newid ers i loriau ddod yn safon tai yng Nghymru?
Ers mis Ebrill 2024, mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) wedi ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol ddarparu lloriau addas ym mhob ystafell pan fydd cartref yn cael ei ail-osod. Ond pa wahaniaeth mae hyn wedi'i wneud yn ymarferol?
Mae Lloriau 3 yn rhoi darlun o sut mae'r newid yn gweithio i denantiaid a landlordiaid ledled Cymru. Mae'n archwilio'r hyn a ddywedodd tenantiaid wrthym am fforddiadwyedd, urddas, cysur, diogelwch a'r teimlad o fod gartref, yn ogystal â'r heriau gweithredol y mae landlordiaid yn eu hwynebu – o gostau ac argaeledd contractwyr i ansawdd ac amseroedd troi eiddo gwag yn ôl i ddefnydd.
Mae'r canfyddiadau'n glir: mae darparu lloriau wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i denantiaid, gan helpu i ddileu rhwystr ariannol sylweddol ar adeg a all fod yn llawn straen yn barod. I landlordiaid, mae hefyd wedi dod â manteision, gan gynnwys gwell bodlonrwydd a chyfleoedd i gryfhau prosesau a pherthnasoedd.
Ond mae mwy i'w ddysgu a'i wella o hyd.
Darllenwch yr adroddiad i ddarganfod beth a glywsom, pam ei fod yn bwysig, a beth y gall landlordiaid ei wneud nesaf.
Diolch i Tapi Carpets & Flooring am noddi'r adroddiad yma.