Swydd Wag Newydd! Swyddog Ymgysylltu a Pholisi
Rydym yn chwilio am berson brwdfrydig i ymuno â ni ar gyfer y rôl arbennig hon.
Pwy ydyn ni?
Sefydliad dielw yw TPAS Cymru, a ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru. Ers 35 mlynedd, rydym wedi gweithio ledled Cymru i ddatblygu ymgysylltu effeithiol â thenantiaid a llais tenantiaid ym maes tai drwy hyfforddiant, cymorth, prosiectau ymarferol a datblygu polisi. Rydyn ni'n caru'r hyn rydyn ni'n ei wneud, ac rydyn ni'n falch o'n gwaith.
Ein Credoau
Ar draws Cymru, mae 222,000 o gartrefi tai cymdeithasol (tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) a 230,000 o rentwyr preifat.
Yn TPAS Cymru, rydym eisiau i lais a phrofiadau tenantiaid fod wrth wraidd cynlluniau a chael eu clywed mewn penderfyniadau yn lleol ac ar lefel genedlaethol.
SWYDDOG YMGYSYLLTU A PHOLISI
Fel Swyddog Ymgysylltu a Pholisi, rydych chi'n rhan o dîm deinamig sy'n cyflwyno prosiectau cyffrous, sesiynau hyfforddi, gwaith ymgynghori, digwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb a chymorth i aelodau. Byddwch hefyd yn hyderus wrth gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd a chynrychioli'r sefydliad yn allanol mewn digwyddiadau a chyfarfodydd sector, gyda'r gallu i ddylanwadu ar randdeiliaid.
Mae'r rôl hefyd yn gyfrifol am gydlynu ein gwaith polisi, ei rannu'n allanol, a chydlynu ein gweithgaredd Pwls Tenantiaid.
Math o gytundeb: Parhaol
Oriau: 5 diwrnod/35 awr yr wythnos
Cyflog: £38,206 y flwyddyn (swydd llawn amser)
Lleoliad: Gwaith hybrid wedi'i leoli yn ein swyddfa yng Nghaerdydd gyda pheth teithio o amgylch Cymru. Mae gennym lwfans gwyliau da iawn, cyfraniad pensiwn o 5%, yswiriant bywyd grŵp, diwylliant moesegol.
Mae TPAS Cymru yn sefydliad Cyfle Cyfartal ac wedi ymrwymo i gyfle cyfartal. Rydym yn cefnogi ac yn annog grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth.
Poeni nad ydych chi'n bodloni'r holl feini prawf? Gwnewch gais beth bynnag!!
Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud cais am swydd fel hon, oherwydd eu bod yn teimlo nad ydynt yn bodloni pob rhan o'r disgrifiad swydd. Nid pobl ticio blychau ydyn ni: nid oes sgrinio AI; byddwn yn darllen pob cais. Rydyn ni eisiau gwybod beth allwch chi ei gynnig, nid yr hyn nad oes gennych chi, a dylai eich cais adlewyrchu hynny. Os oes gennych chi'r agwedd gywir a'r sgiliau sylfaenol, rydyn ni'n cynnig cyfleoedd hyfforddi a datblygu i ddatblygu i'r rôl.
Dyma'r Swydd Ddisgrifiad a manylion am y rôl hon
Yn ogystal, dyma drosolwg 1 dudalen o'r hyn y mae'r rôl yn ei olygu fel arfer
DYDDIADAU ALLWEDDOL
-
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: hanner dydd, dydd Iau 8 Hydref 2026
-
Dyddiad cyfweliadau: Dydd Mawrth 20 Hydref a Dydd Mercher 21 Hydref
Diddordeb? Yn gyntaf, darllenwch y disgrifiad swydd uchod, a chynghorwn yn gryf eich bod yn darllen y nodyn trosolwg ategol ynghylch sut beth yw'r rôl. Hefyd edrychwch ar ein cyfryngau cymdeithasol, gwefan a sianel YouTube am wybodaeth am ein gwaith. Dysgwch fwy am bwy ydym ni a beth rydyn ni’n credu ynddo.
Barod i ymgeisio?
-
Lawr lwythwch y ffurflen gais a ffurflen cyfleoedd cyfartal.
-
Anfonwch y ddau yn ôl gyda CV i [email protected] erbyn 4pm, dydd Llun 13 Hydref 2025
Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech drafod y rôl yn fwy manwl, rydym yn barod i sgwrsio. Gyrrwch e-bost atom [email protected] a threfnwch amser ar gyfer galwad.
Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.