Lluniwyd y fframwaith newydd mewn partneriaeth â prif randdeiliaid y sector, gan gynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, tenantiaid a’r rhai sy’n cyllido’r sector. Mae’r datblygiadadau yma yn seiliedig ar y dull o reoleiddio ar risg a amlinellwyd yn Fframwaith Rheoleiddiol 2011. Ei nod yw i sicrhau bod gan Gymru Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sydd wedi’u llywodraethu’n dda ac sydd ar dir ariannol cadarn, tra’n sicrhau eu bod yn darparu gwasanaethau o safon uchel i denantiaid a defnyddwyr gwasanaethau mewn amglychedd heriol.