Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru, Mark John Williams, sydd wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ers canol yr 80au.

Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau (ABCD)

Dydd Mawrth, 14 Ebrill | 10am – 12:30pm

Bydd y Cyflwyniad hwn i Ddatblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau (ABCD) yn rhoi trosolwg o ABCD a'r amcanion canlynol:

  • Deall pam mae angen i ni newid y ffordd rydym yn gweithio gyda phobl a chymunedau
  • Cael ein cyflwyno i'r cwestiynau allweddol y mae ABCD yn gofyn inni eu cynnig wrth weithio mewn cymunedau
  • Cael blas ar rai o'r cwestiynau allweddol hyn a sut y gallent fod yn berthnasol yn ein bywydau a'n cymunedau
  • Gweld rhai enghreifftiau ymarferol ar waith
  • Myfyrdodau terfynol a chamau gweithredu posib
Pwy yw'r hyfforddwr?

Bydd y cwrs hanner diwrnod hwn yn cael ei gyflwyno gan Gydymaith TPAS Cymru, Mark John Williams, sydd wedi gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol a Datblygu Cymunedol ers canol yr 80au.  Sefydlodd Mark Gwmni Buddiant Cymunedol a Chwmni Cydweithredol o'r enw DO-IT Sir y Fflint hefyd, lle mae'n gweithio ochr yn ochr ag aelodau cyffredin y gymuned a gweithwyr proffesiynol, i gymhwyso ystod eang o Ddulliau sy'n Seiliedig ar Asedau, gan ddefnyddio egwyddorion Cydgynhyrchu.

Mae'r sesiwn hon yn addas i unrhyw un sydd eisiau gwybod mwy am ABCD a'i fanteision, gan gynnwys:
  • Staff Tai
  • Swyddogion Cymunedol
  • Gwirfoddolwyr Cymunedol
  • Tenantiaid a Phreswylwyr
Cost 
  • Tenantiaid: £29.00 +TAW
  • Aelodau TPAS Cymru (staff): £49.00 +TAW
  • Pawb Arall: £99.00 + TAW
Pethau i'w gwybod:
  • Sesiwn ar-lein dros Zoom yw hon
  • Ni fydd y sesiwn yn cael ei recordio

Diddordeb? Cofrestrwch yma drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook.
 

Telerau ac Amodau – ar gyfer digwyddiadau ar-lein â thâl
  • Y dyddiad canslo ar gyfer y digwyddiad hwn yw hanner dydd, dydd Llun 10fed Mai.
  • Mae angen cadarnhad ysgrifenedig drwy e-bost ar gyfer pob canslad. Bydd archebion a ganslwyd cyn y dyddiad canslo yn cael eu had-dalu. Ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu prosesu ar ôl y dyddiad hwn.
  • Bydd cynrychiolwyr cofrestredig nad ydynt yn mynychu'r digwyddiad yn atebol am dalu'n llawn oni bai bod cyfathrebiad ysgrifenedig yn cael ei dderbyn erbyn y dyddiad canslo.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd dirprwyol heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid hysbysu pob cynrychiolydd dirprwyol i [email protected]. Os gwneir newidiadau i gynrychiolwyr dirprwyol ar ôl y dyddiad canslo, ni allwn warantu y byddwn yn gallu diwallu unrhyw anghenion penodol. Cysylltwch â ni ymlaen llaw i wirio.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
 
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych chi eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd, byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Os byddwn yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi.

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

Cyflwyniad i Ddatblygu Cymunedol yn Seiliedig ar Asedau (ABCD)

Dyddiad

Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026, 10:00 - 12:30

Archebu Ar gael Tan

Dydd Gwener 10 Ebrill 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X