Uwchgynhadledd undydd yn canolbwyntio ar un o heriau tai mwyaf dybryd Cymru: troi adeiladau gwag a than-ddefnyddiedig yn ôl yn gartrefi diogel a fforddiadwy

O'r Gwag i'r Hanfodion: Dod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd

Noddwyd gan:

 

Dydd Mawrth, 21 Ebrill 2026


Beth ydyw?

Mae Gwag i Hanfodion yn uwchgynhadledd undydd sy'n canolbwyntio ar un o heriau tai mwyaf dybryd Cymru: troi adeiladau gwag a than-ddefnydd yn ôl yn gartrefi diogel a fforddiadwy.

Wedi'i gynllunio ar gyfer rhai sy'n llunio a darparu adfywio, o weithwyr proffesiynol tai a phartneriaid cymunedol i denantiaid, mae'r sesiwn hon yn mynd y tu hwnt i sgwrs polisi. Rydyn ni eisiau chi gael eich ysbrydoli gan ymarfer dda.

Mae'n archwilio enghreifftiau o Loegr ac Iwerddon fel ysbrydoliaeth ar gyfer llwybrau i ailddefnyddio gan sicrhau bod lleisiau tenantiaid a phrofiad byw yn parhau i fod yn ganolog i benderfyniadau ynghylch lle, dyluniad, a budd cymunedol hirdymor.

Drwy gydol y dydd, byddwn yn archwilio sut y gellir trawsnewid adeiladau gwag yn gartrefi sy'n addas at y diben, yn fforddiadwy i fyw ynddynt, ac wedi'u gwreiddio mewn anghenion lleol.

 
Pam ddyliwn i fynychu?

Os oes gennych ddiddordeb mewn:

  • Cartrefi gwag ac adfywio
  • Cyflenwad tai fforddiadwy
  • Perchnogaeth gymunedol a chreu lleoedd
  • Adnewid strydoedd mawr
  • Llais a dylanwad tenantiaid
  • Ailddefnyddio adeiladau presennol yn gynaliadwy

…yna mae'r gyfres hon ar eich cyfer chi.


TPAS Cymru ydym ni. Rydym eisiau i chi fod ar y daith, nid wedi eich dychryn ganddi.

Gyda'r opsiwn TOCYN GRŴP COST ISEL, gall sefydliadau gynnwys tenantiaid, staff ac aelodau bwrdd - nid dim ond ychydig dethol.


Trosolwg o'r Rhaglen
10:00am – 10:10am | Croeso a Cyfwyniadau

Trosolwg o'r diwrnod, gan osod y cyd-destun ac amlinellu themâu allweddol.


Sesiwn 1 | 10:10am – 11:05am

Adfywio adeiladau adfeiliedig: Enghreifftiau o'r tu hwnt i Gymru

Mae'r sesiwn ddiddorol hon yn edrych ar sut mae adeiladau gwag ac adfeiliedig yn cael eu hailddefnyddio y tu hwnt i Gymru a'r hyn y gallwn ei ddysgu o'r profiadau hynny.

Mae ein siaradwyr yn dod â'r heriau hyn yn fyw trwy ddwy ymgyrch ysbrydoledig sy'n cyflymu ailddefnyddio ar raddfa fawr.  

  • Mae Derelict Ireland yn  goleuo canlyniadau gwirioneddol eiddo gwag hirdymor wrth hyrwyddo camau gweithredu i ddod ag eiddo sydd wedi'u hesgeuluso yn ôl i ddefnydd gan ddangos sut y gall ymdrech gydlynol droi mannau sydd wedi'u hanwybyddu yn gartrefi ac adfywio cymunedau.  
  • Mae Don’t Waste Buildings yn fenter wirfoddol, ddi-blaid wleidyddol  arweinir gan ddatblygwyr, penseiri, peirianwyr ac arbenigwyr treftadaeth sy'n eiriol dros ailddefnyddio adeiladau gwag yn gynhyrchiol i ddarparu tai yn gyflymach, am gost is, a chyda llai o effaith amgylcheddol.  
 Siaradwyr yn gynnwys: 
  • Jude Sherry & Frank O’Connor-  Derelict Ireland 
  • Tania Jennings - Rheolwr Net Sero Carbon am Gyngor Lewisham. Bydda hi yn ffocysu ar ymgyrch 'Don't Waste Buildings' 

 

11:05am, – 11:15am | Egwyl


Sesiwn 2 | 11:15am – 12:00pm

Gwaredu: y da, y drwg, a'u lle yn y dyfodol

Mae gwaredu tai yn parhau i fod yn un o'r materion mwyaf trafodedig ym maes tai yng Nghymru. Gyda chostau cynyddol, stoc sy'n heneiddio, a phwysau i fuddsoddi mewn cartrefi presennol, mae llawer o landlordiaid yn wynebu penderfyniadau anodd.

Mae'r sesiwn hon yn creu lle ar gyfer sgwrs agored a chytbwys ynghylch pryd y caiff gwarediadau eu hystyried, beth all y risgiau a'r manteision fod, a sut mae'r penderfyniadau hyn yn effeithio ar denantiaid, cymunedau, a chyflenwad tai hirdymor.

Cafodd ein siaradwyr dewis am eu barnau onest am y pwnc! 

Mae'r Siaradwr yn Cynnwys:
  • Stuart Epps, Cyfarwyddwr Gweithredol (Cyllid, Asedau a Datblygu), Tai Cymru a'r Gorllewin
  • Wendy Dearden, Uwch Swyddog Polisi ac Ymchwil - Sefydliad Bevan

 

12:00pm– 12:45pm | Egwyl Cinio

 
 
Sesiwn 3 | 12:45 – 13:40

Bric wrth fric: Sut mae landlordiaid Cymru yn adfywio ein cymunedau

Mae Cymru angen mwy cartrefi cymdeithasol, ac mae adnewid yn rhan bwysig o’r ymateb i ddatrys y broblem.   
 
Bydd y sesiwn hon yn dod amrywiaeth o sefydliadau ar draws sectorau fel cyfraith, tai dan arweiniad y gymuned, a chyflenwi ar-y-llawr i rannu sut mae eiddo gwag a thanddefnyddio yn cael eu trosi'n gartrefi fforddiadwy at ei gilydd.  
 
  • Trwy esiamplau ymarferol a myfyrdodau gonest, bydd siaradwyr yn archwilio:   
  • Rhaglenni gwahanol sy’n cefnogi adfywio adeiladau   
  • Trafferthu sy’n effeithio cyflenwad a sut maen nhw yn cael eu rheoli 
  • Gwersi i ddysgu o brosiectau adfywio o ar draws Cymru   
Mae'r sesiwn yn cynnig golwg eang o ystyriaethau strategol i weithredu ymarferol gyda lle i gwestiynau a thrafodaeth gan y gynulleidfa. 
 
Siaradwyr yn gynnwys: 

 

  • Liz Gibbons, Partner - Acuity Law 
  • Tom Jacob, Head of Land & Partnerships – Beacon Cymru 
  • Casey Edwards, Community-led Housing Programme Manager – Cwmpas 
  • Stephanie Hughes – Operations Manager, EasyLiving Ltd 
  • Gareth John – Commercial Director,   EasyLiving Ltd
  • Steve Ingham – Senior Technical Manager,  EasyLiving Ltd

 

Sesiwn 4 | 13:40pm – 14:20pm
Hybu nifer tai cymdeithasol trwy gaffaeliadau o’r sector preifat (S106, TACP, ayyb)   
 
Bydd y sesiwn hon yn ffocysu ar rôl ymarferol cynlluniau, fel TACP, i ddod a mwy o gartrefi mewn i dai cymdeithasol. Clywed o landlordiaid Cymraeg sy’n defnyddio cyllid arloesol i brynu mwy o gartrefi, datgloi cyfleoedd newydd, ac ymateb i anghenion tai lleol.   
 Trwy gydol y sesiwn, bydd siaradwyr yn rhannu sut mae cynlluniau fel TACP ac S106 yn gweithredu, gan gynnwys:   
 
  • Pa opsiynau mae landlordiaid cymdeithasol yn cael a sut maen nhw’n gweithio   
  • Sut mae cyllid yn gweithio, cyfleoedd a chyfyngiadau   
  • Beth sy’n gweithio ac ardaloedd i wella   
  • Mewnwelediadau i sefydliadau sy'n archwilio cyfleoedd tebyg  
 
Siaradwyr yn gynnwys: 
  • James Griffiths, Managing Director — Development & Regeneration, Valleys 2 Coast HA 
  • TBC – north Wales Local Authority 

Crynodeb o'r prif bethau i'w cymryd, myfyrdodau o'r diwrnod, a'r camau nesaf
14:20pm – 14:30pm | Sylwadau Cloi

Manylion Archebu a Chost

Tocyn Grŵp – £399 + TAW
Mynediad diderfyn i'ch staff, tenantiaid, aelodau'r bwrdd, neu randdeiliaid fynychu unrhyw sesiwn neu'r sesiwn gyfan drwy gydol y dydd.

Pwysig:

Rhaid i bawb sy'n defnyddio'r tocyn grŵp gofrestru'n unigol drwy'r ddolen Zoom a dewis yr opsiwn Tocyn Grŵp, gan gynnwys enw eich sefydliad. Mae hyn yn sicrhau mynediad a diweddariadau sesiwn.

Prisiau Unigolion (os nad ydych chi'n prynu'r tocyn grŵp)

  • Staff Tai: £150 + TAW
  • Tenantiaid: £80 + TAW
  • Pawb Arall: £220 + TAW

Cofrestrwch drwy'r ddolen Zoom yma

Noder – Unwaith y byddwch wedi archebu drwy ddefnyddio'r ddolen hon byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost gyda'r ddolen ymuno yn uniongyrchol gan Zoom ([email protected]) Nid yw'r ddolen ymuno yn dod o gyfeiriad e-bost TPAS Cymru felly efallai y bydd angen i chi wirio'ch blychau e-bost sbam / sothach. Mae'r e-bost gyda dolen ymuno hefyd yn rhoi'r cyfle i chi gadw'r manylion i galendr electronig, fel Outlook

Polisi Canslo
  • haid i bob canslad gael ei wneud trwy e-bost at [email protected]  Os byddwch chi'n canslo'ch lle llai na 2 ddiwrnod gwaith cyn y digwyddiad ar-lein, byddwch chi'n gorfod talu'r gost lawn.
  • Os na allwch fynychu, gallwch anfon cynrychiolydd arall heb unrhyw gost ychwanegol. Rhaid rhoi gwybod i [email protected] am hyn
  • Os na fyddwch yn mynychu sesiwn ar-lein â thâl, codir cost lawn arnoch.
  • Ar ôl i ni dderbyn eich canslad, byddwn yn anfon cadarnhad o'ch canslad atoch.
  • Ar gyfer ein digwyddiadau taledig sylwch, dim ond un person all ddefnyddio un cofrestriad taledig, a gwaherddir rhannu dolenni ymuno / sgriniau. Felly, rhaid i bob person sy'n mynychu'r digwyddiad hwn gael cofrestriad ar wahân.
Hawl TPAS Cymru i Ganslo
Ein nod yw sicrhau bod pob digwyddiad ar-lein yn rhedeg yn ôl y bwriad. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan fydd yn rhaid i ni ganslo digwyddiad oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os digwydda hyn, byddwn yn rhoi cymaint o rybudd â phosibl i chi. Os ydych eisoes wedi talu am y digwyddiad a ganslwyd byddwn yn rhoi ad-daliad llawn i chi. Pe byddem yn cynnal y digwyddiad eto, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i chi

 

Gwybodaeth am y digwyddiad

Teitl y Digwyddiad

O'r Gwag i'r Hanfodion: Dod ag adeiladau gwag yn ôl i ddefnydd

Dyddiad

Dydd Mawrth 21 Ebrill 2026, 10:00 - 14:30

Archebu Ar gael Tan

20 Ebrill 2026

Archebion Adar Cynnar Ar Gael Tan

Math o ddigwyddiad

Yn addas ar gyfer

I gyd

Siaradwr

Guest Speaker

Gwybodaeth am y Lleoliad

Enw Lleoliad

Online

Cyfeiriad y Lleoliad



Google Map Icon

AGOS X