Mae TPAS Cymru yn falch o lansio Arolwg Pwls Tenantiaid 2026, ein chweched arolwg ledled Cymru, sy'n casglu profiadau tenantiaid o gynhesrwydd fforddiadwy, effeithlonrwydd ynni, a'r daith tuag at dai Sero Net.

Ydych chi'n denant sy'n rhentu yng Nghymru? 

Mae TPAS Cymru yn falch o lansio Arolwg Pwls Tenantiaid 2026, ein chweched arolwg ledled Cymru, sy'n casglu profiadau tenantiaid o gynhesrwydd fforddiadwy, effeithlonrwydd ynni, a'r daith tuag at dai Sero Net.

Mae'r arolwg yn cymryd llai na phum munud i'w gwblhau ac mae'n rhoi cyfle i chi rannu eich profiadau a helpu i lunio dyfodol tai yng Nghymru..

Mae cynhesrwydd fforddiadwy yn dechrau gyda chi.

Mae eich cartref, eich biliau ynni, a'ch cysur yn bwysig. Drwy rannu eich profiadau, gallwch chi helpu i lunio cartrefi cynhesach a mwy fforddiadwy i denantiaid ledled Cymru.

Mae arolwg Pwls Tenantiaid yn rhoi cipolwg hanfodol ar yr hyn y mae tenantiaid yn ei brofi ar lawr gwlad. Rydym yn rhannu'r canfyddiadau hyn gyda Llywodraeth Cymru, darparwyr tai, a llunwyr polisi i helpu i lywio penderfyniadau a chefnogi newid ystyrlon ar draws y sector tai.

Os ydych chi'n denant sy'n byw yng Nghymru, gwnewch yn siŵr bod eich llais yn cael ei glywed trwy gwblhau'r arolwg yma

Mae eich data yn bwysig i ni

Rydym yn cymryd diogelu data o ddifrif. Caiff pob ymateb Pwls Tenantiaid ei drin yn ddiogel, ac ni fydd eich gwybodaeth bersonol byth yn cael ei rhannu â thrydydd partïon.

 


Beth yw Pwls Tenantiaid?

Panel tenantiaid swyddogol Cymru gyfan yw Pwls Tenantiaid, a grëwyd gan TPAS Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru. Am y pum mlynedd diwethaf, mae Pwls Tenantiaid wedi galluogi tenantiaid i rannu eu barn ar y materion pwysicaf - gan helpu i lunio polisi ac arfer tai ledled Cymru.

P'un a ydych chi'n byw mewn tai cymdeithasol (tai cymdeithas dai neu dai cyngor), llety rhent preifat, neu dai â chymorth, mae Pwls Tenantiaid yn sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.


Hoffai TPAS Cymru ddiolch i bob tenant sy'n cymryd yr amser i gwblhau'r arolwg.
Mae eich profiadau'n bwysig, ac mae eich llais yn helpu i lunio cartrefi gwell i Gymru.

Mae Pwls Tenantiaid yn rhan o'n gwaith Llais y Tenant, a noddir yn garedig gan