Gwobrau Arfer Da Cenedlaethol TPAS Cymru 2026
Proses enwebu syml – Lleoliad Newydd - Arddangos eich gwaith - Categorïau cyffrous!
17 Mehefin 2026 – Gwesty'r Marriott, Caerdydd
Byddwch yn rhan o’n gwobrau cenedlaethol yn 2026 – ffordd wych o rannu, cydnabod a dathlu’r gwaith gwych rydych chi a thenantiaid yn ei wneud yn eich sefydliadau a’ch cymunedau
Mae’r adeg o’r flwyddyn yma ble y byddwn yn chwilio am enwebiadau ar gyfer Gwobrau Arfer Da blynyddol TPAS Cymru. Mae gennym ni amrywiaeth wych o gategorïau i chi gystadlu gan gynnwys rhai newydd sbon.
Eleni mae gennym leoliad newydd gwych ac ystod wych o gategorïau i chi gystadlu ynddynt gan gynnwys rhai newydd sbon.
Mae enwebu ar gyfer y Gwobrau yn rhad ac am ddim i aelodau TPAS Cymru ac rydym wedi symleiddio’r broses enwebu.
Eleni, cynhelir y Seremoni Wobrwyo ar 17 Mehefin 2026, yng Ngwesty Marriott, Caerdydd yng nghanol y ddinas.
Bydd y gwobrau'n cael eu cyflwyno yn ystod Cinio Gala gyda'r nos, gan ei wneud yn ddathliad go iawn. Yn ogystal, yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal ein Cynhadledd Undydd.
Am fanylion llawn am y categorïau a’r meini prawf, gweler y Categorïau a’r Meini Prawf ar gyfer pob categori sydd hefyd wedi eu nodi ar y ffurflenni enwebu unigol isod. Ceir rhagor o awgrymiadau cyffredinol yn y Ddogfen Ganllawiau
Cliciwch y dolenni isod i lawr lwytho’r ffurflenni enwebu unigol ac i ddarllen mwy am feini prawf y beirniadu:
9. NEWYDD Ymgysylltiad Preswylwyr mewn Cartrefi Diogel ac Iach
Mae’r broses ar gyfer enwebu yn syml:
-
Dewiswch pa gategori/au yr ydych am ei gyflwyno a lawr lwythwch y ffurflen enwebu berthnasol o’r rhestr uchod
-
Darllenwch y Meini Prawf a’r Canllawiau sydd yn rhoi rhagor o fanylion i chi ar sut i wneud hyn
-
Dychwelwch eich enwebiad erbyn canol dydd 22 Ebrill 2026
Os fydd eich cais yn cyrraedd y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw fel y gallwch drefnu i fod yn y Cinio Gala.
Os nad ydych chi’n siŵr sut i ‘fynd ati’? Neu efallai eich bod am ofyn cwpl o gwestiynau am ba wybodaeth sydd angen i chi ei chynnwys yn y gwaith papur? Beth bynnag fo’ch cwestiwn neu bryder byddwn yn gallu helpu! Ymunwch â ni mewn sesiwn amser cinio anffurfiol ond hynod ddefnyddiol pan fyddwn yn rhoi rhai Awgrymiadau Da i chi ar sut i wneud eich enwebiad y gorau y gall fod:
Dydd Mawrth, 10 Mawrth - 12.00pm - 12.30pm
.png)