TPAS Helpline

Enghreifftiau

Dyma rai enghreifftiau o'r mathau o gyngor yr ydym wedi'i roi yn ystod y misoedd diwethaf:

  • Roedd un o'n aelod-sefydliadau eisiau cofleidio proses fethodoleg ddarbodus. Nid oedd y Swyddog perthnasol yn siŵr sut yr oedd CT yn ffitio i mewn i broses ddarbodus a gofynnodd am ein cyngor. Yr oeddem yn gallu ei roi mewn cysylltiad â'n chwaer sefydliad yng Ngogledd Iwerddon (Cymunedau Gyda’i Gilydd) sydd ag adnoddau/ enghreifftiau gwych o arfer da ar ddefnyddio dull ‘darbodus’ gyda CT.
  • Roedd gan grŵp tenantiaid ddiddordeb mewn dysgu mwy am gyfuno gyda'i gilydd i gael pris gostyngol grŵp ar gyfer trydan. Yr oeddem yn gallu eu rhoi mewn cysylltiad â dau grŵp arall a oedd wedi bod yn llwyddiannus wrth holi eu cyflenwr trydan a sicrhau pryniant grŵp.
  • Ffoniodd tenant eisiau gwybod am y Ddeddf Cartrefi Rhent gan eu bod yn mynd i fynychu cyfarfod Bwrdd eu Cymdeithas Tai ac yn teimlo eu bod angen trosolwg. Roeddem yn gallu egluro'r pwyntiau allweddol iddynt dros y ffôn ac anfon copi electronig o'n 'canllaw cyflym' iddynt ar y pwnc.
  • Ffoniodd tenant sector rhent preifat am gyngor gan eu bod wedi cael rhybudd troi allan. Gwnaethom esbonio nad oeddem yn gallu cynnig cyngor iddynt ond roeddem yn gallu eu cyfeirio at wasanaeth lleol ardderchog a oedd yn gallu rhoi cyngor arbenigol, amserol a’r gefnogaeth yr oeddynt ei hangen.
  • Holodd swyddog ni am ddulliau priodol i gynnal ymgynghoriad gyda phobl ifanc yn ystod digwyddiad cymunedol. Roedd TPAS Cymru yn gallu trafod cwestiynau yr oedd y landlord yn awyddus i’w gofyn ac awgrymu dulliau anffurfiol/ hwyliog a fyddai’n addas i ymgysylltu â'r bobl ifanc. Hefyd trafodwyd ffyrdd o goladu a rhoi adborth ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad i'r boblogaeth denant ehangach.

Am unrhyw gyngor ar arfer da Cyfranogiad Tenantiaid, ffoniwch ar TPAS Cymru 02920 237303 neu 01492 593046.