2) Cyfranogiad trwy Fideo
Nid yw hyn yn ymwneud â sut i greu fideos hir, diflas a chorfforaethol.
Mae'r hyfforddiant undydd yn ymwneud â defnyddio eich ffôn clyfar neu dabled i wneud fideo syml, ond effeithiol sy’n sy’n cipio’r foment ar ei orau. Fe fyddem yn dangos i chi sut i wneud addasiadau ac ychwanegion i offer sydd gennych yn barod i uchafu eich effeithiolrwydd.
Byddem hefyd yn edrych ar ddulliau arloesol o sut i ffilmio a golygu eich fideos.
Yn olaf, byddem yn edrych ar sut i ddarlledu a mwyhau er mwyn eithafu eich neges i’ch cynulleidfa darged. Ers lansio’r cwrs yma flwyddyn yn ôl, mae wedi bod yn boblogaidd iawn. Gallwn ei gyflwyno yn fewnol i’ch sefydliad, neu fe allwn hefyd gynnal cyrsiau agored. Mae’r cwrs yn cael ei ddiwygio a’i ddiweddaru ar gyfer bob cyflwyniad fel eich bod yn derbyn y wybodaeth fwyaf diweddar a chyfoes.
At bwy y mae wedi ei anelu: Unrhyw un sydd eisiau ehangu eu hymgysylltiad ar-lein a chyfathrebu ag ystod ehangach o gyfranogwyr cymunedol. Nid yw’n unigryw i denantiaid na swyddogion tai. Noder: Nid yw’n gofyn am unrhyw brofiad o ddefnyddio fideo, fodd bynnag nid yw ar gyfer y rhai â sgiliau cyfrifiadurol cyfyngedig. Bydd cyfranogwyr yn gyfarwydd â defnyddio ffôn clyfar, tabled neu gyfrifiadur personol. Maent yn pori ar-lein yn rheolaidd, wedi cymryd ffotograffau, ac yn gwybod sut i lawr lwytho ap neu raglen.