Adolygiad o Dai Fforddiadwy - Cwestiynau Cyffredin
Pwy sydd wedi comisiynu'r adolygiad?
Mae’r adolygiad wedi cael ei gomisiynu gan Rebecca Evans AC, y Gweinidog dros Dai ac Adfywio.
Beth yw nod yr adolygiad?
Nod yr adolygiad yw archwilio a ellir gwneud mwy i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru, ac i wneud y gorau o'r adnoddau sydd ar gael. Mae llywodraeth Cymru wedi gosod targed o adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Cynulliad yn 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau â'u rhaglen o adeiladu tai fforddiadwy y tu hwnt i 2021, gan osod targedau hyd yn oed yn fwy ymestynnol. Yn ychwanegol at adeiladu mwy o dai fforddiadwy mae Llywodraeth Cymru hefyd yn awyddus i wella dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni tai newydd yng Nghymru.
Beth fydd yr adolygiad yn canolbwyntio arno?
Yn benodol, bydd yr adolygiad yn:
-
Edrych ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y ffynonellau arian cyfatebol a goblygiadau hynny ar gyfraddau ymyrraeth grant
-
Edrych ar sut caiff gwaith partneriaeth ei reoli ar hyn o bryd, rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, ac argymell ffyrdd o wneud y mwyaf o waith o’r fath er mwyn darparu tai yn unol â’r nod o ran cyflenwi tai;
-
Gwerthuso effaith trosglwyddo i ddarparu cartrefi di-garbon erbyn 2020 gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu ar safle arall yn y broses a dulliau modern o adeiladu tai;
-
Rhoi cyngor o ran a ddylid newid y safonau sy’n rheoli dyluniad ansawdd tai fforddiadwy;
-
Cynnig argymhellion ynglŷn â sut y gall polisi rhenti cynaliadwy helpu i benderfynu a fydd tenantiaid yn gallu fforddio’r rhent yn y hirdymor, a pha mor ymarferol yw’r datblygiadau tai sydd ar gael ar hyn o bryd a’r datblygiadau tai newydd; a
-
Cynghori ynglŷn â sut i wneud y mwyaf o’r gallu i ddatblygu mewn cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol sy’n dal stoc, yn enwedig ar ôl 2020 pan fydd yr holl stoc presennol yn bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru.
Pwy fydd yn cynnal yr adolygiad?
Ar 11 Mai 2018, cyhoeddodd y Gweinidog pwy fydd aelodau’r panel annibynnol fydd yn goruchwylio’r adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadwy. Bydd y panel yn cael ei gadeirio gan Lynn Pamment, Uwch-bartner yn swyddfa Caerdydd PwC. Mae aelodau eraill y panel yn cynnwys:
-
Dr Peter Williams – academydd sy’n gysylltiedig ag Adran Economi’r Tir ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ymgynghorydd annibynnol ar y marchnadoedd tai a morgeisi, a pholisi tai;
-
Helen Collins – Savills, Pennaeth yr Ymgynghoriaeth Dai
-
Yr Athro Kevin Morgan – Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd;
-
Dr Roisin Willmott – cyfarwyddwr ar gyfer Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru; a
-
Phil Jenkins – Rheolwr Gyfarwyddwr, Centrus
Pryd fydd yr adolygiad yn cyhoeddi ei ganfyddiadau?
Disgwylir i'r Panel gyhoeddi ei ganfyddiadau a'i argymhellion erbyn Ebrill 2019.