Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig: Risgiau’r Sector a Disgwyliadau Rheoleiddio
Os fuoch yn bresennol yn un o'n digwyddiadau rhanbarthol diweddar, Rheoleiddio: Y Diweddariad Mawr a gynhaliwyd ledled Cymru, byddwch wedi clywed sôn am y Papur diwygiedig ar Risgiau sydd wedi ei gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r papur ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru a’i fwriad yw i ddylanwadu ar y ffordd mae’r sector yn mynd ati i reoli risg yn effeithiol. Mae’n ddogfen ddefnyddiol ac yn gallu cynorthwyo Byrddau, Staff a rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys Tenantiaid, i gael gwell dealltwriaeth o’r risgiau mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn eu hwynebu mewn sector sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth ac amrywiol ei natur.
Mae angen i Fyrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru ddeall y problemau a’r risgiau sydd i’w hwynebu wrth gyflawni eu cynlluniau busnes. Bydd nifer o’r rhain yn unigryw ond mae yna risgiau a phroblemau sy’n berthnasol i’r sector gyfan.
Mae’r rhain o ddiddordeb arbennig i’r Rheoleiddiwr ar hyn o bryd ac maent wedi’u crynhoi yn y papur hwn ynghyd â’r disgwyliadau perthnasol o ran rheoleiddio.
Cliciwch ar y dolenni isod o’r Papur diwygiedig o Risgiau’r Sector.
http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/publications/sector-risks-facing-housing-associations/?lang=en
http://gov.wales/topics/housing-and-regeneration/publications/sector-risks-facing-housing-associations/?skip=1&lang=cy