Beth Rydym yn ei Gasglu?
Efallai y byddwn yn casglu'r wybodaeth ganlynol - enw a theitl swydd, gwybodaeth gyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost, gwybodaeth ddemograffig megis cod post, dewisiadau a diddordebau a gwybodaeth arall sy'n berthnasol i arolygon cwsmeriaid a/neu gynigion.
Beth rydym yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn?
Rydym angen y wybodaeth hon i ddeall eich anghenion a rhoi gwasanaeth gwell i chi, ac yn arbennig, ar gyfer cadw cofnodion mewnol. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'r wybodaeth i wella ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Gall TPAS Cymru o bryd i'w gilydd anfon negeseuon e-bost yn hyrwyddo cynnyrch newydd, cynigion arbennig neu wybodaeth arall y credwn y gallech eu gweld yn ddiddorol, gan ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yr ydych wedi ei ddarparu. O bryd i'w gilydd, efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i gysylltu â chi at ddibenion ymchwil marchnad. Gall TPAS Cymru gysylltu â chi drwy e-bost, ffôn, ffacs neu’r post. Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth i addasu'r wefan yn unol â’ch diddordebau.
Diogelwch
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod eich gwybodaeth yn ddiogel. Er mwyn atal mynediad neu ddatgeliad heb awdurdod, mae TPAS Cymru Cyf wedi sefydlu gweithdrefnau ffisegol, electronig a rheolaethol addas i amddiffyn a diogelu'r wybodaeth a gasglwn ar-lein.
Cysylltiadau â Gwefannau eraill
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill o ddiddordeb. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi defnyddio'r dolenni hyn i adael ein safle, dylech nodi nad oes gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw wybodaeth a roddwch wrth ymweld â safleoedd o'r fath ac ni reolir safleoedd o'r fath gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus ac edrych ar y datganiad preifatrwydd sy'n berthnasol i'r wefan dan sylw.
Rheoli eich gwybodaeth bersonol
Gallwch ddewis cyfyngu ar gasglu neu ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol, trwy ysgrifennu atom. Ni fydd TPAS Cymru yn gwerthu, dosbarthu na phrydlesu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon oni chawn eich caniatâd neu ei bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith. Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i anfon gwybodaeth hyrwyddol atoch am drydydd partïon, yr ydym yn credu a allai fod o ddiddordeb i chi os ydych yn dweud wrthym eich bod eisiau i hyn ddigwydd. Gallwch ofyn am fanylion am y wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd ffi fechan yn daladwy. Os hoffech gael copi o'r wybodaeth a gedwir amdanoch, cysylltwch â ni. Os ydych yn credu bod unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch yn anghywir neu'n anghyflawn, ysgrifennwch atom neu anfonwch e-bost cyn gynted ag y bo modd, yn y cyfeiriad a geir ar ein tudalen gyswllt. Byddwn yn cywiro unrhyw wybodaeth y canfyddir ei bod yn anghywir.