Taflen Ffeithiau Tenantiaid Preifat Gogledd Cymru
Ydych chi'n rhentu gan landlord preifat neu asiant gosod tai yng Ngogledd Cymru?
Rydym wedi bod yn gweithio gyda 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf i sicrhau bod lleisiau tenantiaid yn cael eu clywed ar draws y sector rhentu preifat. Gyda'n gilydd, rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau bod gan denantiaid y wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnynt i deimlo'n wybodus am eu tenantiaeth.
Yr awdurdodau lleol dan sylw yw - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym yn awr yn falch o rannu ein taflen ffeithiau ddiweddaraf ar Gyfraddau LTLl a gwybodaeth gyswllt. Mae hwn yn bwnc pwysig ac mae'r cylchlythyr yn cynnwys gwybodaeth hanfodol i bob tenant preifat.
I ddarllen y daflen ffeithiau yn Saesneg, cliciwch yma
I ddarllen y daflen ffeithiau yn y Gymraeg, cliciwch yma
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â [email protected]