Fel y gŵyr rhai ohonoch efallai eisoes, mae Prif Weinidog Cymru (Mark Drakeford) wedi camu o’i sefyllfa. Wythnos yma...

Diweddariad Polisi: Dydd Gwener 22 Mawrth, 2024

Fel y gŵyr rhai ohonoch efallai eisoes, mae Prif Weinidog Cymru (Mark Drakeford) wedi camu o’i sefyllfa. Wythnos yma, enwebodd Aelodau’r Senedd (AS) Vaughan Gething fel ein Prif Weinidog newydd. Bydd ei enw yn awr yn mynd at y Brenin i'w gymeradwyo.

Felly, beth fydd ein Prif Weinidog newydd yn ei wneud pan fydd yn ymgymryd â’i rôl.

1.      Yn gyntaf, mae wedi penodi cabinet. Mae hyn yn golygu bod newid wedi bod ymhlith cyfrifoldebau presennol pob Gweinidog.

Mae'r newidiadau fel a ganlyn:

Rebecca Evans AS:  Cyllid, Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet
Julie James AS:  Tai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
Lesley Griffiths AS: Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol
Ken Skates AS: Gogledd Cymru a Thrafnidiaeth
Jeremy Miles AS: Economi, Ynni a'r Iaith Gymraeg
Eluned Morgan AS: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Huw Irranca-Davies AS:  Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Lynne Neagle AS: Addysg
Jane Hutt AS: Y Prif Chwip a'r Trefnydd
 

Mae gan Lafur a Phlaid Cymru gytundeb cydweithio sy'n ymdrin â phynciau fel diwygio'r dreth gyngor, prydau ysgol am ddim ac ati, ond dyw Plaid ddim yn falch orau am rai o roddion ymgyrch Vaughan Gething (roedd wedi derbyn symiau mawr o arian o roddion preifat oddi wrth rhywun sydd â chofnod troseddol), felly gallai’r cytundeb hwn ddod i ben.

2.      Yn ei Maniffesto Arweinyddiaeth, ymrwymodd i nifer o fentrau, ond at ddiben y diweddariad hwn, byddwn yn canolbwyntio ar dai. Mae Vaughan Gething wedi rhoi blaenoriaeth i adeiladu mwy o dai cymdeithasol, gyda’r nod o fynd i’r afael â’r argyfwng tai. Soniodd am ôl-ffitio’r stoc tai presennol ar gyflymder a graddfa drwy weithio gyda’r sector a chyllid preifat. Pwysleisiodd bwysigrwydd hawliau tenantiaid a sut mae’n dymuno cryfhau’r rhain, gan ddileu’r cymal ‘dim anifail anwes’. Mae hefyd yn ymrwymo i archwilio rheolaethau rhent yn genedlaethol ac yn rhyngwladol gyda'r nod o osod rhenti teg i denantiaid. Yn olaf, mae’n sôn yn fyr am barhad y gefnogaeth i ddeiliaid morgeisi.

Mae llawer o fentrau y mae ein Prif Weinidog newydd wedi ymrwymo iddynt, felly byddwn yn eich annog i ddarllen y Maniffesto Arweinyddiaeth sy’n gysylltiedig yma - Maniffesto Etholiad Arweinyddiaeth Llafur Cymru — Vaughan Gething ar gyfer Arweinydd Llafur Cymru (vaughanforleader.cymru)

 

Byddwn yn parhau i’ch diweddaru wrth i dirwedd wleidyddol Cymru newid