ASYT (TAsesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid) gwasanaeth cefnogi a gwirio

 

Mae gwasanaeth cefnogi a dilysu ASYT(Asesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid) gan TPAS Cymru yn rhoi cyngor a thystiolaeth i landlordiaid cymdeithasol i’ch helpu i ddangos ymrwymiad eich sefydliad i ymgysylltu â thenantiaid a safonau rheoleiddio.

Bydd ein Hasesiad Safonau Ymgysylltu â Thenantiaid yn rhoi buddion allweddol i chi gan gynnwys:

  • Meddu ar ddealltwriaeth glir o leoliad eich sefydliad ar hyn o bryd.
  • Meddu ar dystiolaeth bod eich sefydliad yn cydymffurfio â gofynion rheoleiddiol Llywodraeth Cymru.
  • Dangos fod eich sefydliad yn un sydd wedi ymrwymo i glywed llais y tenantiaid.
  • Hyrwyddo eich cyflawniadau a'ch ymrwymiad gan ddefnyddio symbol dilysu ASYT.

Siaradwch â ni i ddarganfod mwy a sut y gall dilysu ac adolygu ASYT fod o fudd i'ch sefydliad - byddwn yn siarad chi drwy'r buddion a'r broses.

Yn y cyfamser, am fwy o wybodaeth:

Cymrwch olwg ar ein daflwn wybodaeth ASYT

Adfeiliad/Lleithder a Llwydni: cefnogi'r sector i gefnogi tenantiaid

Mae cadw tenantiaid yn ddiogel yn eu cartrefi yn fusnes craidd i landlord cymdeithasol a gwyddom fod mynd i'r afael â lleithder a llwydni yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i landlordiaid a thenantiaid.
Mewn ymateb i bryderon parhaus, mae TPAS Cymru yn darparu ystod o wasanaethau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi’r sector i ymateb i’r materion hyn a disgwyliadau Llywodraeth Cymru ac i ddarparu gwasanaethau rhagorol sy’n ymateb i anghenion eich tenantiaid. Gweler ein briffiau gwybodaeth ddwyieithog isod:
 

Siaradwch â ni am ein gwasanaethau ymgynghori proffesiynol

Gall ein cefnogaeth annibynnol ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnoch - byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i atebion a symud ymlaen i sicrhau bod eich strategaeth denantiaid yn cyflawni canlyniadau.

Gallwn weithio gyda chi i nodi'r cymorth sydd ei angen arnoch a'r canlyniadau y byddwch eisiau.

  • Eich cefnogi chi i 'ailfeddwl' eich dulliau o ymgysylltu â thenantiaid a’r gymuned er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni amcanion y cynllun busnes a gwerth am arian
  • Bodloni disgwyliadau rheoleiddio Llywodraeth Cymru
  • Ehangu ymgysylltu gan gynnwys tenantiaid anodd eu cyrraedd a thenantiaid sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
  • Gwella cyfranogiad a chyfathrebu digidol
  • Gwella gwasanaethau a gwerth am arian
  • Gwella tryloywder ac atebolrwydd
  • Dangos gwerth cymdeithasol ac elw ar fuddsoddiad
  • Arfer gorau o ran craffu a herio
  • Gwella cymunedau trwy dechnegau arloesol
  • Cyflawni a dangos canlyniadau
  • Sut i weithredu deddfwriaeth newydd neu arfer gorau fel Deddf Rhentu Cartrefi a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Eich helpu i wneud y gorau o'r potensial ar gyfer creu 'gwerth' drwy ymgysylltu a phrosiectau cymunedol