Y Da, Y Drwg a’r Hyll - 100 diwrnod ar ôl trychineb Grenfell
Mae trychineb Grenfell wedi rhoi ysgydwad i ni gyd yn y byd tai. Wrth i ni wylio’r newyddion y bore hwnnw, doedd neb yn gallu deall sut y gallai rhywbeth fel hyn ddigwydd yn 2017? Mae un peth yn glir, ni ddylai byth ddigwydd eto.
Mae heddiw yn 100 diwrnod ers y trychineb, felly dyma fy marn i ar ble y mae tai arni bellach yng Nghymru.
FELLY GADEWCH I NI DDECHRAU GYDA’R DA.
Yn gyntaf, mae’n cymryd trychineb fel hyn i newid y ffordd y mae diogelwch tân yn cael ei ystyried a'i flaenoriaethu yn sylweddol mewn tai, gwestai, adeiladau cyhoeddus ac ati. Rydw i’n mawr obeithio ac yn credu mai dyma fydd y peth cadarnhaol i ddod o’r digwyddiad ofnadwy hwn.
Mae camau wedi eu cymryd yng Nghymru a San Steffan. Efallai y byddwch yn gyfarwydd â rhai ohonynt:
Bu i Lywodraeth San Steffan roi 'grŵp arbenigol' at ei gilydd ac maent wedi symud yn gyflym i weithio â'r BRE (Sefydliad Ymchwil Adeiladu) wrth brofi'r gwahanol fathau o gladin ACM. Profwyd 7 math ac mae gennym bellach syniad clir o ba rai a basiodd a pha rai a fethodd.
Mwyaf sydyn yng Nghymru, roedd ystod eang o adeiladau uchel gyda chladin ACM yn llygad y cyhoedd. Anfonwyd paneli am brofion, adolygwyd gweithdrefnau tân a gwnaed asesiadau tân ffres. Mae'r Gwasanaeth Tân wedi cymryd rhan lawn wrth gynghori ac asesu adeiladau.
Bu i Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant yn Llywodraeth Cymru (y Gweinidog sy'n gyfrifol am dai i chi a minnau!) roi grŵp cynghori at ei gilydd yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Tân, Llywodraeth Leol, landlordiaid cymdeithasol, a landlordiaid y sector gwirfoddol a phreifat. Gofynwyd i TPAS Cymru gynrychioli tenantiaid ac roeddwn yn falch iawn i ymuno.
Mae'r grŵp wedi cyfarfod yn wythnosol yn ddi-ffael gyda llond gwlad o ohebiaeth rhwng y cyfarfodydd. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn rhoi argymhellion cychwynnol i'r Gweinidog i'w ystyried. Yn naturiol, ni allaf rannu â chi beth yw'r argymhellion hynny eto. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw bod y grŵp (dan arweiniad Des Tidbury, Prif Gynghorydd Tân ac Achub Llywodraeth Cymru) wedi bod yn gadarnhaol ac yn gynhyrchiol iawn. Bu ymrwymiad go iawn gan bawb i sicrhau bod diogelwch tân yn cael ei wella yng Nghymru. Nid yw wedi bod yn siop siarad nac yn broses o weld bai. Mae wedi bod yn onest ac wedi canolbwyntio ar gael y ffeithiau am ein sefyllfa yng Nghymru a sut yr ydym am symud ymlaen.
Rhywbeth cadarnhaol arall yw bod rhai landlordiaid wedi bod yn ymatebol iawn. Hoffwn sôn am Gartrefi Dinas Casnewydd. Mae eu hymrwymiad, eu gweithredoedd a'u cyfathrebu â'u tenantiaid mewn blociau tŵr wedi bod yn dda iawn. O fewn y 100 diwrnod cyntaf hwn, maent wedi cytuno i osod chwistrellwyr, wedi tendro a phenodi contractwr, ac mae'r gwaith eisoes wedi cychwyn. Rwy'n edrych ar CDC fel enghraifft o arfer gorau. Mae Cyngor Abertawe hefyd wedi gweithredu’n gyflym. Roeddwn ym Mhencadlys Cyngor Abertawe y diwrnod ar ôl Grenfell ac roedd ganddynt dîm o staff (gyda llond gwlad o ohebiaeth) yn ymroddedig i guro ar ddrysau a siarad â thenantiaid.
Enghraifft arall a glywais amdano oedd am adeilad cyhoeddus yng Nghymru a oedd â rhai materion diogelwch tân hanesyddol (nad oeddent yn gysylltiedig â chladin) ac nad oedd cyllideb i'w trwsio. Ar ôl Grenfell, daethpwyd o hyd i'r arian ddigon sydyn. Ni ddylai gymryd trychineb fel hyn er mwyn gwneud i bobl weithredu, ond rwy'n gobeithio ein bod ni bellach yn cymryd hyn o ddifrif.
Yn olaf, yr hyn rwy'n falch o'i weld yng Nghymru yw bod llawer o agweddau ar ddiogelwch tân bellach yn cael eu hadolygu.
Mae cwestiynau'n cael eu gofyn, megis:
-
A oes angen i reoliadau adeiladu newid?
-
A yw polisi 'Aros Lle’r Ydych' (h.y. Stay Put) yn dal i fod yr ymateb cywir?
-
A oes gennym ni ddigon o Aseswyr Tân, a pha gymwysterau a datblygiad parhaus sydd ganddynt?
-
Sut ydym ni'n lleihau'r nifer o danau sy'n dechrau yn y lle cyntaf?
Y DRWG
Yn anffodus, nid yw pob datblygiad ers y trychineb wedi bod yn gadarnhaol. Mae 3 peth yn peri pryder i mi:
1) Adeiladau eraill a mathau eraill o gladin. Yn ddigon gwir, mae'r ffocws wedi bod ar adeiladau cladin ACM gyda risg cysgu dros 18m. Fodd bynnag, Rydw i'n beicio heibio adeiladau cladin coediog bob bore a chredaf fod angen inni ofyn cwestiynau amdanynt. Yn yr un modd mae'n ymddangos bod Caerdydd ar ras gwyllt i adeiladu cymaint â phosibl o flociau uchel ar gyfer myfyrwyr preifat. Maent yn cael eu hadeiladu'n gyflym mewn marchnad gystadleuol. Dyna sut mae corneli yn cael eu torri. Fel cyn-lywydd Undeb y Myfyrwyr, rwy'n gwybod pa mor ddidaro gall rhai myfyrwyr fod. Rwyf i eisiau gwybod bod y mesurau diogelwch tân yn adlewyrchu hynny.
2) Y sector breifat. Mae'n gymysgedd gymhleth, gyda haenau o rydd-ddeiliaid, lesddeiliaid, tenantiaid, cwmnïau rheoli, adeiladau hunan-reoli ac ati. Oes gennym ni darlun cyflawn o'r sector preifat? Efallai na fyddent mor agored a thryloyw neu am weithredu'n gyflym gan ei fod yn dod i lawr i ddau brif bwynt 1) pwy sy'n atebol am unrhyw gostau? 2) sicrhau bod yr hyn y maent yn ei roi ar waith yn mynd i gydymffurfio yn y dyfodol. Gall hyn gymryd blynyddoedd (gweler fy adran olaf) h.y. Cafodd adeilad sy’n agos i le’r wyf i’n byw ei gladio gyda ACM llai na dwy flynedd yn ôl am gost aruthrol. Os yw'n methu'r prawf cladin diweddaraf, efallai y bydd angen iddo gael ei ailosod. Pwy sy'n talu am hynny? A sut maen nhw'n sicrhau ei fod yn iawn y tro nesaf?
3) Y brys i’w wneud yn ddiogel. Mae'r gadwyn gyflenwi yn ehangach na chladin corfforol. Mae angen contractwyr arnoch chi, a phobl i gynghori a gwneud trefniadau gyda thenantiaid. Ni all Cymru gyfan a'r DU gael ei wneud ar unwaith. Mae maint y gwaith sydd ei angen yn Lloegr yn enfawr a gallai gymryd blynyddoedd. Mae yna bwysau gwirioneddol i weithredu. Gallem weld y gosodiadau anghywir yn cael eu gosod ar gostau chwyddedig iawn pan fo pobl dan bwysau 'i wneud rhywbeth' yn gyflym.
YR HYLL
Fe glywais am esiampl (efallai nad yw’n wir – yn Lloegr yn ôl pob sôn) sy’n crynhoi’r adran ‘Hyll’ o’r blog hwn.
Dyma’r esiampl:
Adeilad lesddeiliad preifat 140-uned h.y. 140 o fflatiau. Y gost am sgaffaldiau, tynnu’r hen gladin ACM ac inswleiddiad, ail osod gyda chladin newydd, ffioedd proffesiynol ac ati a gwaith diogelwch tân hanfodol arall - honnir bod y bil cyfan yn dod i £10-15 miliwn.
Felly, mae perchnogion y fflat o bosib yn edrych ar £70-£100 mil fesul uned yr un - ond dim ond £140 mil yw gwerth y fflat mwyaf drud yno. Efallai bod rhai yn landlordiaid ‘prynu i osod’, ond gall nifer fawr ohonynt fod yn bensiynwyr, prynwyr tro cyntaf, ac yn sicr llawer ar yr incwm isaf.
Mae'n syml, ni ellir ei wneud. Mae ychydig o amgylchiadau lle gall prydleswyr godi'r arian hwnnw ar y cyd. Fodd bynnag, os na wnânt - a wnaiff eu heiddo barhau i fod yn anniogel ac yn anwerthadwy?
Roedd yn arfer cydymffurfio â rheoliadau adeiladu. Ond nawr mae problem fawr. Gallai fod yn flynyddoedd cyn i hyn gael ei ddatrys trwy gamau cyfreithiol. Bydd y proffesiwn cyfreithiol yn brysur, oherwydd bydd y partïon yn erlyn cwmnïau rheoli, cynghorwyr proffesiynol neu awdurdodau lleol. Yn ystod yr amser yma, gallai'r rhwymedigaethau mawr posibl hyn wneud rhai fflatiau'n anwerthadwy nes bod y cyfan wedi ei ddatrys.
Felly, a ddylai'r talwr treth dalu'r bil, os yw rheoliadau adeiladu yn ei gael yn anghywir? Mae'r bil yn anfesuradwy! Pam ddylai’r dreth dalwyr achub - er enghraifft - bob landlord ‘Prynu i Osod’ sydd mewn gwirionedd yn gweithredu fel perchnogion tai sy'n gwneud cyflog eithaf da wrth osod eu heiddio yn nosweithiol ar Airbnb? Pam y dylai’r trethdalwyr eu hachub? Fodd bynnag, a ddylai teulu sydd ar incwm isel golli eu cartref os na allent dalu goblygiadau eu les pan maent wedi cynilo ac wedi ei brynu yn ddidwyll. Mae'r rhain yn gwestiynau anodd sydd angen eu hystyried.
CRYNODEB
Felly, 100 diwrnod yn ddiweddarach, rydym wedi gweld newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn edrych ar Ddiogelwch Tân. Mae gennym dipyn o ffordd i fynd o hyd ond rydym yn symud yn y cyfeiriad cywir. Mae gennym ymchwiliad cyhoeddus swyddogol, a bydd newidiadau yn dod o San Steffan a Bae Caerdydd, a hyd yn oed ar lefel gymunedol.
Ni ddylem wedi bod angen trychineb fel hyn er mwyn gorfodi'r newidiadau, ond yn hanesyddol dyma sydd wastad wedi digwydd. Mae digwyddiadau pan oeddwn i’n ifanc fel y Hillsborough, Zeebrugge, Stadiwm Heysel wedi gweld newidiadau hirdymor enfawr i’w sectorau priodol. Gellid bod wedi osgoi'r cyfan, ond cafwyd newidiadau oherwydd trychineb y gellir ei osgoi.
David Wilton, TPAS Cymru