Ar 8 Mai 2018 pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid deddfu Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).  Gyda'r Bil ar fin dod yn gyfraith gyda chaniatáu cydsyniad brenhinol cyn bo hir, mae TPAS Cymru yn edrych ar y 6 peth sydd angen i chi ei wybod am y Bil.

 

6 peth sydd angen i chi wybod am y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 

Ar 8 Mai 2018 pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o blaid deddfu Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).  Gyda'r Bil ar fin dod yn gyfraith gyda chaniatáu cydsyniad brenhinol cyn bo hir, mae TPAS Cymru yn edrych ar y 6 peth sydd angen i chi ei wybod am y Bil.

1. Pam mae’r Bil yn cael ei ddeddfu?

Ar 29 Medi 2016, ail-ddosbarthodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (cymdeithasau tai) yng Nghymru fel rhan o'r sector cyhoeddus.  Penderfynodd yr ONS fod y lefel o reolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i fwynhau dros gymdeithasau tai yng Nghymru yn golygu na ellid eu hystyried yn sefydliadau annibynnol.  Gwnaed penderfyniad tebyg hefyd ynghylch statws cymdeithasau tai yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Byddai'r penderfyniad yn golygu bod dyled cymdeithasau tai (£2.5 biliwn yng Nghymru) yn cael ei symud i'r fantolen cyhoeddus, sy'n golygu y byddai cymdeithasau tai bellach yn ddarostyngedig i reolau benthyca'r sector cyhoeddus. Byddai hyn yn cyfyngu ar allu cymdeithasau tai i fenthyca arian yn y dyfodol, gan effeithio'n sylweddol ar eu gallu i adeiladu tai cymdeithasol newydd. Felly cyflwynwyd y Bil i leihau rheolaeth y Llywodraeth, ac i wrthdroi penderfyniad yr ONS.

2. Caniatâd ar gyfer Gwaredu

Mae un o'r darpariaethau mwyaf arwyddocaol yn y Bil yn ymwneud â faint o reolaeth sydd gan Lywodraeth Cymru dros waredu cymdeithasau tai. Roedd y gyfundrefn oedd ar waith ar yr adeg y gwnaeth yr ONS ei adolygiad ar statws cymdeithasau tai Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol bod cymdeithasau tai yng Nghymru angen cael caniatâd Llywodraeth Cymru cyn y gallent werthu eiddo. Pan ddaw'r Bil i rym, ni fydd hyn bellach yn wir, gyda chymdeithasau tai dim ond yn gorfod rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru bod gwarediad wedi digwydd.

Yn ystod taith y Bil trwy'r broses ddeddfwriaethol yn y Cynulliad, bu i Lywodraeth Cymru a chymdeithasau tai ddatgan yn glir nad oeddent yn disgwyl gweld cynnydd sylweddol yng ngwerthiant tai gan gymdeithasau tai yng Nghymru unwaith y bydd y newid yn dod i rym. Bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd hyn yn trosglwyddo'n ymarferol. Mae TPAS Cymru yn credu ei bod yn bwysig i gymdeithasau tai gynnwys tenantiaid yn y broses, lle bo modd, i sicrhau bod eu barn yn cael ei glywed wrth i’r sector gychwyn gweithredu o dan y dull newydd hwn.

3. Rôl awdurdodau lleol

Sefydlwyd nifer o gymdeithasau tai yng Nghymru ddegawd yn ôl fel sefydliadau trosglwyddo stoc. Trwy'r proses gwelwyd llawer o awdurdodau lleol yn trosglwyddo eu stoc tai cyngor i'r cymdeithasau tai newydd hyn a sefydlwyd. Er mwyn adlewyrchu eu rôl nodedig, roedd yn rhaid i'r sefydliadau trosglwyddo stoc hyn gydymffurfio â nifer o ofynion. Roedd un o'r rhai pwysicaf o'r rhain yn ymwneud â chyfansoddiad eu bwrdd. Roedd hi’n ofynnol i gymdeithasau tai trosglwyddo stoc i sicrhau bod 1/3 o’u bwrdd yn denantiaid, 1/3 yn gynghorwyr lleol, ac 1/3 yn bobl annibynnol. Pan ddaw'r Bil i rym, ni fydd cynghorwyr lleol yn gymwys bellach i wneud mwy na 24% o fwrdd y gymdeithas dai. Wrth i gymdeithasau tai geisio ymateb i'r newid hwn, bydd yn bwysig i gymdeithasau tai ystyried sut y caiff llais cymunedol ei glywed ar lefel bwrdd, tra ar yr un pryd sicrhau bod eu bwrdd yn gweithredu i safonau llywodraethu uchel.

4. Pwerau Llywodraeth Cymru dros reolaeth cymdeithas tai

Bydd pwerau Llywodraeth Cymru i ymyrryd mewn cymdeithasau tai sy'n methu yn cael eu tynhau ychydig pan ddaw'r Bil i rym. Bydd Llywodraeth Cymru ond yn gallu defnyddio ei bwerau ymyrryd dros reolaeth cymdeithas dai os yw cymdeithas wedi methu â chydymffurfio â gofyniad a osodir gan ddeddfwriaeth, neu ofyniad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth. Yn ymarferol, mae'n annhebygol y bydd hyn yn cael effaith sylweddol gan y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i allu ymyrryd yn rheolaeth cymdeithas dai os yw wedi methu â bodloni'r safonau a bennwyd gan y fframwaith rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru felly, yn parhau i fod â phwerau pwysig o ran rheoli cymdeithasau tai.

5. Uno a newid cyfansoddiadol

Ni fydd cymdeithasau tai yng Nghymru bellach angen gofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru cyn uno â sefydliad arall neu cyn gwneud unrhyw newid cyfansoddiadol. Byddent, fodd bynnag, angen rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau o’r fath.

Er na fydd cymdeithasau tai bellach yn gorfod gofyn am ganiatâd Llywodraeth Cymru cyn uno, mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â'u tenantiaid. Mae rhai eithriadau i'r gofyniad hwn. Er enghraifft, efallai na fydd gofyn i gymdeithas dai sydd mewn trafferthion ariannol ymgymryd ag ymgynghoriad o'r fath. Er gwaethaf hyn, mae'r gofyniad cyfreithiol hwn yn amddiffyniad pwysig i denantiaid, gan sicrhau bod ganddynt rôl allweddol ym mhrosesau uno.

6. Rôl cyfranogiad tenantiaid

Neges allweddol sydd wedi cael ei ailadrodd drwy gydol cynnydd y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) drwy'r Senedd yw pwysigrwydd cyfranogiad tenantiaid. Mae aelodau o bob plaid wleidyddol, gan gynnwys y Ceidwadwyr, Llafur a Phlaid Cymru wedi sôn am y rôl bwysig y dylai cyfranogiad tenantiaid ei chwarae yn sector tai cymdeithasol Cymru. Mae TPAS Cymru wedi bod yn falch iawn o glywed cefnogaeth drawsbleidiol o'r fath ar gyfer cyfranogiad tenantiaid. Credwn y dylai hyn roi hyder i bawb sy'n gweithio mewn cyfranogiad tenantiaid yng Nghymru, bod eich gwaith yn cael ei werthfawrogi, a bod cefnogaeth i ni i gyd weithio gyda'n gilydd i ddatblygu'r gwaith sydd eisoes yn rhagorol yn ein cymunedau.