Os ydych yn gweithio yn y Sector Tai, byddwch yn sylwi mewn cynadleddau neu ddigwyddiadau, bod y cynrychiolwyr neu siaradwyr hŷn yn cyfeirio’n briodol at y ffilm ‘Cathy Come Home’ fel eu hysbrydoliaeth neu’r rheswm iddynt fynd i weithio ym maes Tai Cymdeithasol.
Nid oedd y rhan fwyaf o’n darllenwyr ar-lein (gan fy nghynnwys innau) wedi eu geni pan gafodd y ddrama deledu BBC ei ryddhau 50 mlynedd yn ôl ym 1966. I’r rhai sydd heb ei weld, mae drama Ken Loach yn adrodd hanes ‘…mam ifanc sydd wedi’i dal mewn system amhosibl, annynol, sy’n ei gadael yn ddigartref, yn dinistrio ei phriodas ac yn y pendraw yn ei amddifadu o’i phlant…’
Ni ellir dan bwysleisio ei effaith. Achosodd sioc enfawr yn ei sgil. Newidiodd barn y cyhoedd. Arweiniodd at ymchwydd mewn rhoddion i’r elusen Shelter a sefydlu’r elusen Crisis y flwyddyn ganlynol. Ysbrydolwyd cenhedlaeth bobl sydd wedi gweithio’n ddiflino mewn Tai Cymdeithasol byth ers hynny.
Y rheswm am y blog yma yw tynnu sylw at y ffaith ei fod ar gael ar hyn o bryd i wylio am ddim ar BBC iplayer am y 29 diwrnod nesaf. Yma yn TPAS Cymru, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd yr awr ac 20 munud i wylio’r ddrama deledu anhygoel yma. Fyddwch chi ddim yn difaru.
Cymrwch y cyfle yma.
Ar wahân i’r cyfle yma, mae ar gael i’w weld ar Sianel Youtube y Cyfarwyddwr am £1.99 ac mae’n bosib prynu’r DVD ar ebay am £5.
David Wilton, Cyfarwyddwr
TPAS Cymru
Twitter: @Dai_TpasCymru