Swyddog Polisi ac Ymgysylltu TPAS Cymru yn gwahodd eich barn ar fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd

Adolygiad o Gyflenwad Tai Fforddiadwy a Mynd i'r Afael ag Unigrwydd ac Arwahanrwydd yng Nghymru

 

 

Fy nghwestiwn i yw; a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried y Strategaeth Unigrwydd ac Arwahanrwydd pan fyddant yn adeiladu tai fforddiadwy newydd? Ni ellir gwadu'r angen am 20,000 o gartrefi newydd, ond mae'n rhaid i hyn fod gyda'r golwg o fynd i'r afael â'r mater hwn, nid ei gynyddu.

 

Rhowch wybod i mi beth y credwch chi y dylai strategaeth unigrwydd ac arwahanrwydd Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy newydd yn cael eu dylunio a'u hadeiladu mewn modd sy'n helpu i leihau'r risg o unigrwydd ac arwahanrwydd. Ni ellir gwadu’r angen am 20,000 o gartrefi newydd ond mae'n rhaid i hyn gael ei wneud gyda'r nod o adeiladu cymunedau cynaliadwy a lleoedd cysylltiedig. Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau ac unrhyw enghreifftiau o'r gwaith yr ydych yn ei wneud wrth fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd.

 

Mae'n rhaid i’r gwaith o atal pobl rhag teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd fod yn flaenoriaeth genedlaethol i ni” (Huw Irranca- Davies, 2018)