Adran 21 mewn 60 eiliad
Mae newyddion y DU yn ymdrin â straeon Adran 21 (a21), pan o'r diwedd y deffrodd Lloegr i bwnc sy'n hen newyddion yn yr Alban ac eisoes wedi ei gyhoeddi fel ymgynghoriad yng Nghymru. Felly beth yw a21?
-
Mae adran 8 y Ddeddf Tai 1988 yn caniatáu landlordiaid i gyflwyno rhybudd i denantiaid o dan ‘sail’ benodol. Er enghraifft, tenant yn torri amodau eu cytundeb
-
Fodd bynnag, mae Adran 21 o’r un Ddeddf Tai yn caniatáu i chi wneud yr un peth ond heb orfod rhoi unrhyw reswm dros roi rhybudd. Mae llefarydd ar safle cyngor landlordiaid yn crynhoi pam nad yw pobl yn hoffi Adran 21 “…Os nad yw'r tenant wedi gwneud dim o'i le, gallwch ddefnyddio Adran 21…”
-
Mae Adran 21 wedi bod yn gysylltiedig â ‘dial trwy ddadfeddiannu’ a ‘dadfeddiannu heb fod bai’ – pan fydd y tenant yn cwyno am rywbeth hollol resymol, bydd y landlord yn eu troi allan. Nid yw hyn yn iawn, ac mae sefydliadau fel Shelter Cymru wedi darparu nifer o enghreifftiau o hyn yn digwydd yng Nghymru. Efallai eich bod wedi gweld BBC UK (Lloegr) yn cyfweld â thenantiaid a oedd wedi cael eu taro gan hyn.
-
Mae landlordiaid sy'n amddiffyn a21 yn credu, os ydych chi'n ei gwneud yn anodd i ddadfeddiannu, byddent yn llai tebygol i rentu eiddo sy'n arwain at lai o argaeledd a chynnydd mewn rhent. Rwy'n gwybod bod landlordiaid yn aml yn cael eu portreadu fel ‘y drwg yn y caws’ ond mae llawer ohonynt yn bobl bob dydd sy'n ceisio buddsoddi yn eu dyfodol. Mae data'n dangos ei fod yn cymryd dros bum mis i landlord preifat sy'n gwneud cais i'r llysoedd am adfeddiannu, iddo ddigwydd mewn gwirionedd. Mae'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn dadlau (fel yr Alban), bod angen i ni ddiwygio'r seiliau i adfeddiannu eiddo a systemau llys cyn gwneud newidiadau i Adran 21.
-
Os ydych chi'n ei gwneud yn anodd i ddadfeddiannu, efallai na fydd landlordiaid yn cymryd y risg ar bobl iau sy'n fwy agored i niwed, heb hanes rhentu, teuluoedd ag anifeiliaid anwes ac ati.
-
Fel gyda'r rhan fwyaf o ddiwygio tai, dylem edrych ar yr Alban. Bu i'r Albanwyr gael gwared ar Adran 21 ond ar yr un pryd wedi egluro / cryfhau Adran 8 fel y gallai Landlordiaid gyflwyno rhybudd am reswm dilys mewn modd amserol. Ymddengys ei fod wedi mynd yn dda. Yn dechnegol, mae'n cael ei alw'n rhywbeth arall (nid A21 ac A8) - yn yr Alban y maent yn ei alw'n adran 33 ond does dim angen i chi boeni am hynny!)
David Wilton
Darllen pellach:
Achos Shelter Cymru dros gael gwared ag Adran 21
https://sheltercymru.org.uk/what-we-do/campaigns/end-no-fault-evictions/
Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn gosod eu hachos dros gadw Adran 21.
https://news.rla.org.uk/housing-reforms-risk-hurting-tenants/
https://news.rla.org.uk/rla-vice-chair-douglas-haig-comments-on-section-21-announcement-at-welsh-labour-party-conference/
