Foundational Economy - So how does TPAS Cymru measure up?

ADRODDIAD ECONOMI SYLFAENOL

Beth yw Economi Sylfaenol?

Fe'i lluniwyd gan y Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-Diwylliannol yn 2013 yn eu Maniffesto ar gyfer yr economi sylfaenol, fel y canlynol:

“Yr hyn y byddwn yn ei alw'n economi sylfaenol yw'r rhan honno o'r economi sy'n creu ac yn dosbarthu nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan bawb (waeth beth yw eu hincwm a'u statws) oherwydd eu bod yn cefnogi bywyd bob dydd”.

Felly sut mae hyn yn cael ei ddiffinio ym mywyd bob dydd?

Mae’r Maniffesto yn nodi “cynhyrchiad cyffredin o angenrheidiau bob dydd” ac yn dadlau  bod gwneuthurwyr polisi wedi esgeuluso'r sectorau hyn o'r economi, gan fod eu sylw wedi eu tynnu gan ddiwydiannau uwch-dechnoleg, y genhedlaeth nesaf. O ganlyniad, mae'n honni bod yr economi sylfaenol yn cael ei chamreoli'n barhaol a bod hyn wedi arwain at cael ei nodweddu gan swyddi cyflog isel, sgiliau isel. Felly, maent yn cynnig llu o fesurau sector-benodol i fywiogi'r rhannau hyn o'r economi.

Cyfansoddiad Sectorol:

Mae'r canlynol yn ffurfio'r economi sylfaenol:

  1. y cyfleustodau, gan gynnwys gwasanaethau pibellau neu geblau megis ynni, dŵr a charthffosiaeth;
  2. bancio manwerthu; manwerthu bwyd a phetrol; prosesu bwyd;
  3. rhwydweithiau a gwasanaethau fel rheilffyrdd neu fysiau ar gyfer cludo a dosbarthu pobl a nwyddau;
  4. rhwydweithiau telathrebu;
  5. iechyd, addysg a lles / gofal cymdeithasol.

Mae hwn yn gasgliad eang ac amrywiol o sectorau, sy'n cyfrif am dros 70% o'r holl gyflogaeth yn y DU.

Mae astudiaethau achos yr Economi Sylfaenol hyd yn hyn yn cynnwys sefydliadau 'angor' mawr (fel prifysgolion, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yr Heddlu ac ati) yn dadansoddi eu prif gontractau i gynyddu / gwella cadwyn gyflenwi leol.

O ran TPAS Cymru, nid ydym yn gwmni mawr, fodd bynnag, gallwn edrych ar ein holl wariant a sut mae'n cymharu â'n hymrwymiad i economi Cymru gyfan.

Felly sut mae TPAS Cymru yn ei wneud?

Mae 100% o’n staff yn byw yng Nghymru.

Mae 80% o’n gwariant yn cael ei ddosrannu i sefydliadau mentrau bach a chanolig sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sy'n cyflogi preswylwyr Cymru. 

Mae 10% arall yn rhan o sefydliad canolig eu maint sydd ,er nad oes ganddynt eu tarddiad yng Nghymru, â swyddfa yng Nghymru ac maent yn cyflogi preswylwyr Cymru ac yn darparu gwasanaethau lleol, gan sicrhau twf a diogelwch swyddi lleol.

Mae'r 10% olaf yn cynnwys dau wariant sylweddol yn bennaf:

  1. Gwesty cadwyn yng Nghaerdydd a ddefnyddiwn unwaith y flwyddyn ar gyfer digwyddiad.
  2. Ein rhent ar gyfer ein swyddfa yng Nghaerdydd. Er bod gan ein landlord 'Uno'r Undeb' bresenoldeb corfforol a staff cryf iawn yng Nghymru, mae'n aneglur ar hyn o bryd os yw ein taliadau rhent yn aros yng Nghymru.

Dim ond 0.30% o’n gwariant sy’n mynd i sefydliadau ar-lein lle na allwn ddewis sefydliadau Cymreig yn benodol oherwydd diffyg argaeledd cynnyrch neu wasanaeth neu oherwydd eu bod yn gostus.

Rydym yn sicrhau bod 100% o'n cefnogaeth yn mynd i gwmnïau bach a chanolig yng Nghymru ar gyfer y gwasanaethau canlynol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, elusennau a chanolfannau cymunedol.

  • Ystafelloedd Cyfarfod
  • Arlwyo
  • Datrysiadau TG
  • Cefnogaeth y cyfryngau; gan gynnwys cynnwys y cyfryngau, cyfieithu, ffotograffiaeth, fideo
  • Hyfforddi a Recriwtio Staff
  • Archwilio a Chyfrifeg
  • Cynrychiolaeth / Cefnogaeth Gyfreithiol ac Adnoddau Dynol
  • Gwasanaethau Negesydd
  • Telathrebu
  • Argraffu

Camau Nesaf:

Rydym yn cydnabod nad yw'n ddigon i edrych i mewn i'n sefydliad ein hunain yn unig. Rhaid i ni ddylanwadu ar ac adeiladu cysylltiadau â sefydliadau angori fel landlordiaid cymdeithasol. Yn hanesyddol mae ein dylanwad yn llawer mwy na'n pŵer gwario. Felly, rydym yn ymrwymo i 3 gweithred:

  1. Byddwn yn ceisio hyrwyddo gweithgareddau Economi Sylfaenol ac yn meddwl ar draws y sectorau yr rydym yn ymgysylltu ag o ran Tai, Awdurdodau Lleol, Iechyd a Gofal Cymdeithasol e.e. eu h annog i ddefnyddio busnesau cymdeithasol / mentrau bach a chanolig ac iddynt greu a thargedu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i breswylwyr ac ati
  2. Ymgysylltu â'r Llywodraeth ac eraill i sicrhau bod lleisiau preswylwyr yn cael eu clywed fel rhan o ddatblygiad polisi cenedlaethol yn yr Economi Sylfaenol.  
  3. Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerdydd a Bae Colwyn, ond rydym yn gweithio ledled Cymru. Dylai ein cyflenwad a'n cadwyn werth adlewyrchu hynny. Mewn diweddariad yn y dyfodol, byddwn yn ystyried pa mor amrywiol yw ein gwariant ledled Cymru.

Os hoffech ragor o wybodaeth, peidiwch betruso i gysylltu â TPAS Cymru ar 02920 237303 neu [email protected]

David Wilton a Jane Broad 

TPAS Cymru

 

Caerphilly housing