TPAS Cymru yn ymateb i adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Cynyulliad Cenedlaethol Cymru i Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) - Adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol

Mae adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, o Fil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) nawr wedi ei gyhoeddi. Mae TPAS Cymru yn croesawi argymhellion y Pwyllgor ac yn credu eu bod yn gosod sylfaen gadarn ar gyfer datblygu’r sector dai gymdeithasol yn y dyfodol.

Rydym yn hapus i weld bod y Pwyllgor wedi ystyried tystiolaeth TPAS Cymru, yng nghyd â tystiolaeth eraill. Drwy gytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil, mae TPAS Cymru yn credu bod y Pwyllgor wedi sicrhau y bod modd i’r broses ddeddfwriaethol barhau fydd yn meddwl bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn gallu cael eu ailddosbarthu i’r sector preifat gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae hyn yn holl bwysig er mwyn sicrhau bod mudiadau tai yng Nghymru yn gallu parhau i fenthyg arian i adeiladu tai cymdeithasol newydd, gwaith sy’n cefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddynt anelu am ei targed of 20,000 o dai fforddiadwy newydd erbyn 2021.    

Yn ogystal a hyn, mae TPAS Cymru yn croesawi argymhellion y Pwyllgor y dylai tenantiaid gael fwy o ddweud dros sut mae eu mudiadau yn gweithredu. Rydym yn cefnogi argymhelliad 4 yn benodol –

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno gwelliannau i gryfhau rôl tenantiaid ar Fyrddau Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gan nodi proses ffurfiol ar gyfer cyfranogiad tenantiaid cyn y gwneir newidiadau cyfansoddiadol a/neu gyfuniadau penodol.

Fel arbenigwyr mewn cyfranogaeth tenantiaid gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad yn y maes, mae TPAS Cymru yn awyddus i weithio law yn llaw gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, Llywodraeth Cymru a’r sector dai cymdeithasol i weld sut gall yr argymhelliad yma gael ei ddatblygu.

Rydym hefyd yn croesawi argymhelliad y Pwyllgor y dylid gwneud gwaith craffu ar ôl y broses ddeddfu i sicrhau bod hawliau tenantiaid yn cael eu diogelu, yn ogystal a’i casgliad y dylai Llywodraeth Cenedlaethol Cymru ystyried cyflwyno deddfwriaeth bellach yn y dyfodol, a fyddai yn gydgrynhoi’r ddeddfwriaeth ar dai yng Nghymru.

Mae TPAS Cymru yn credu bod yr argymhellion yma yn gyson ag argymhellion Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad am fwy o dryloywder o fewn y sector dai cymdeithasol yng Nghymru. Fe allai’r argymhellion yma, o’u ystyried ar y cyd, helpi gwella’r sector dai cymdeithasol er budd landlordiaid a tenantiaid yng Nghymru.

Fe allwch ddarllen yr adroddiad yn ei gyfanrwydd wrth glicio yma