Blaenoriaethau Tenantiaid ar Atgyweiriadau
Mae cynnal a chadw eiddo a sicrhau bod yna wasanaeth atgyweirio o safon wedi bod yn flaenoriaethau ers sbel i denantiaid yng Nghymru. Yn adroddiad diweddar TPAS Cymru, Llais y Tenantiaid ar Werth am Arian dywedodd 26% o denantiaid Cymru mai cael cartrefi a gedwir i safon dda oedd y peth pwysicaf iddynt wrth ystyried a oedd eu rhent yn rhoi gwerth da am arian, yn ail i fforddiadwyedd eu rhent/taliadau gwasanaeth (31%). Er hyn, mae tenantiaid sy'n mynychu ystod o ddigwyddiadau rhwydweithio a hyfforddi TPAS Cymru yn aml yn mynegi pryderon ynghylch darpariaeth gwasanaeth atgyweirio eu landlord.
Er mwyn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, penderfynodd TPAS Cymru gynnal arolwg o'r gymuned Pwls Tenantiaid. Diben yr arolwg hwn yw nid edrych ar foddhad cyffredinol tenantiaid Cymru gyda'r gwasanaeth atgyweirio a gaent gan eu landlord, ond yn hytrach, edrych ar flaenoriaethau tenantiaid Cymru o ran y gwasanaeth atgyweirio a dderbyniant. Gobeithir y bydd canlyniadau’r arolwg yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a landlordiaid cymdeithasol weithio gyda thenantiaid Cymru i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol yn datblygu systemau ar gyfer eu gwasanaethau atgyweirio sy’n adlewyrchu blaenoriaethau eu tenantiaid yn fanwl gywir.
-
Casglu gwybodaeth mewn 3 Rhwydwaith Tenantiaid rhanbarthol ym mis Mai 2018 i helpu i lunio cwestiynau’r arolwg ac i gasglu barn fanwl.
-
Pwls Tenantiaid - arolwg ar-lein a thrwy’r post ar gyfer aelodau’r Pwls Tenantiaid, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018.
Diolch i'r holl denantiaid a wnaeth cymryd yr amser i gwbwlhau'r holiaduron ac i fynychu'r digwyddiadau. Roedd yr ymatebion yn drylwyr a manwl iawn ac fe wnaethant rhoi gwybodaeth defnyddiol i ni wnaethom ni rhannu a Llywodraeth Cymru. Mae TPAS Cymru wedi paratoi adroddiad byr, yn crynhoi'r ymatebion. Rydym ni'n gobeithio ei fydd yn rhoi cyfle i denantiaid gymharu eu profiadau â thenantiaid eraill ar draws Cymru, tra'n rhoi cyfle i landlordiaid a rhanddalwyr arall i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r hyn sy'n bwysig i denantiaid.
I ddarllen yr adroddiad yn llawn cliciwch yma.