Mae adroddiad blynyddol Bwrdd Rheoleiddiol Cymru i’r Gweinidog yn un ffordd maent yn rhoi sicrwydd ar sut mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithio, a mewnwelediad ar faterion sy'n codi o'r sector Cymdeithasau Tai.

Bwrdd Rheoleiddiol Cymru – Adroddiad i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Mae’r Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn Fwrdd Cynghori annibynnol i’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru.

Mae eu hadroddiad blynyddol i’r Gweinidog yn un ffordd maent yn rhoi sicrwydd ar sut mae rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru yn gweithio, a mewnwelediad ar faterion sy'n codi o'r sector Cymdeithasau Tai.

Mae’r adroddiad hwnnw wedi cael ei gyhoeddi heddiw a gellir darllen yr adroddiad llawn yma (23 o dudalennau) 

Oeddech chi'n gwybod?

  1. Cefnogir Bwrdd Rheoleiddiol Cymru ei hun gan Grŵp Cynghori ar Reoleiddio. Mae’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio yn fforwm i randdeiliaid sy’n cynnig cyfle i godi a rhannu materion sy’n ymwneud â rheoleiddio a dysgu ohonynt, a rhoi cyngor i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru yn unol â hynny. Mae’n gyfrwng pwysig er mwyn helpu i hyrwyddo dull cynhwysol o weithredu, sy’n seiliedig ar egwyddor sylfaenol cyd‑reoleiddio ac yn fforwm a groesewir gan Fwrdd Rheoleiddiol Cymru.
  2. Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn cael adroddiadau rheolaidd gan Wasanaeth Ymgynghorol Cyfranogiad Tenantiaid Cymru (TPAS Cymru) ar ddeall a chlywed barn tenantiaid Cymdeithasau Tai, sy’n sicrhau bod pryderon a buddiannau tenantiaid yn cael eu hadlewyrchu yn nhrafodaethau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru. Mae hon yn ffynhonnell bwysig o wybodaeth i Fwrdd Rheoleiddiol Cymru a chaiff ei hatgyfnerthu ymhellach drwy roi’r adolygiad thematig presennol o ymgysylltu â thenantiaid ar waith. Dangosir aelodau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a’r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio er gwybodaeth yn Atodiad 1 i’r adroddiad blynyddol hwn.

 

Yn olaf, ydych chi eisiau gwybod mwy am Fwrdd Rheoleiddiol Cymru a’i waith - gwyliwch y fideo diweddaraf gan y Cadeirydd Helen White https://www.youtube.com/watch?v=a7ronN_2qkE