Beth mae 'Tenantiaid wrth Wraidd' yn ei olygu i denantiaid mewn gwirionedd? 

10 Pwynt Allweddol o’n Cynhadledd 2018

 

Beth mae 'Tenantiaid wrth Wraidd' yn ei olygu i denantiaid mewn gwirionedd? 

10 Pwynt Allweddol o’n Cynhadledd 2018

Mae 'tenantiaid wrth wraidd' yn un o’r ymadroddion sy’n cael ei or-ddefnyddio fwyaf yn y sector dai; bu i ni hyd yn oed benderfynu ei ddefnyddio fel thema ar gyfer ein cynhadledd flynyddol. Arweiniodd hyn at amryw o drafodaethau gwerthfawr ynghylch sut mae’r term wedi gwneud i denantiaid deimlo, a’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd i denantiaid a landordiaid. Nodwyd 10 o bwyntiau allweddol. 

 

 
  1. Mewn byd o ymgynghori digidol ac ar-lein ac ati, peidiwch ag anghofio gwerth ymgysylltu â thenantiaid wyneb yn wyneb yn eu cymunedau i gael mewnwelediad ac i adeiladu perthnasau cadarnhaol.

 

  1. Mae landlordiaid cymdeithasol angen cydbwyso adeiladu cartrefi newydd tra'n sicrhau eu bod yn buddsoddi yn ansawdd y cartrefi sy'n bodoli eisoes.

 

  1. A fyddai newid y term ‘tai cymdeithasol’ i ‘tai cymunedol’ yn helpu i greu canfyddiad mwy cadarnhaol o dai cymdeithasol?

 

  1. Dweud straeon cadarnhaol am yr hyn y mae ymgysylltu â thenantiaid wedi'i gyflawni.

 

  1. Dylai landlordiaid ddatblygu ymddiriedaeth a pherthynas â thenantiaid i’w grymuso i fod yn gyfaill beirniadol.

 

  1. Tenantiaid tai cymdeithasol presennol i rannu ffeithiau cadarnhaol am dai cymdeithasol.

 

  1. Mae datblygiadau technegol a digidol newydd yn gyfle gwych i alluogi pobl ag anableddau gyda thechnoleg gynorthwyol newydd.

 

  1. Mae llais tenantiaid yn hanfodol wrth lunio gwasanaethau landlordiaid oherwydd gallant herio meddylfryd landlordiaid.

 

  1.  Dylid gwerthfawrogi'r tenantiaid gymaint â staff.

 

  1.  Cofiwch mai cadw'r tenantiaid wrth wraidd yw'r peth iawn i'w wneud!