Mae rhai tenantiaid yn talu taliadau gwasanaeth am yr eiddo maen nhw'n byw ynddo. Mae taliadau gwasanaeth yn talu costau cynnal a chadw ardaloedd neu wasanaethau a rennir /cymunedol ar gyfer eich ystâd a/neu floc o eiddo. Mae taliadau gwasanaethau...Darllen mwy

Taliadau Gwasanaeth (Cyfres yr Agenda 3)  

Pynciau i Grwpiau Tenantiaid eu trafod â'u landlord

Mae rhai grwpiau tenantiaid wedi gofyn inni am eitemau agenda amserol / sesiynau briffio pwnc i'w grŵp tenantiaid eu trafod â'u landlord.  Mae TPAS Cymru wedi creu cyfres friffio yr ydym yn ei galw’n ‘Agenda’ sy’n darparu grwpiau tenantiaid efo trosolwg o bwnc ac yn awgrymu cwestiynau y gallech eu gofyn wrth i chi ymgysylltu â’ch landlord.  Bydd y briff hwn yn canolbwyntio ar y canlynol:

Taliadau Gwasanaeth

Mae rhai tenantiaid yn talu taliadau gwasanaeth am yr eiddo maen nhw'n byw ynddo. Mae taliadau gwasanaeth yn talu costau cynnal a chadw ardaloedd neu wasanaethau a rennir /cymunedol ar gyfer eich ystâd a/neu floc o eiddo.Mae taliadau gwasanaethau yn wahanol i'r rhent y mae tenantiaid yn ei dalu. Mae rhent yn cynnwys cynnal a chadw, atgyweiriadau, a chost rheoli eich cartref.

Mae landlordiaid yn aml yn darparu ystod eang o wasanaethau ychwanegol, mae'r rhain yn wahanol yn dibynnu ar y math o eiddo ac unrhyw gyfleusterau lleol sydd ar gael. Nid yw pawb yn derbyn y gwasanaethau hyn oherwydd efallai nad ydyn nhw'n berthnasol i bob math o eiddo. Dyma ychydig o enghreifftiau o'r gwasanaethau y gellir eu hariannu gan daliadau gwasanaeth:

  • Gofalwr
  • Cynnal a chadw lifftiau
  • Cynnal a chadw mynediad drws
  • Garddio mewn ardaloedd Cymunedol
  • Goleuadau mewn ardaloedd Cymunedol
  • Erialau teledu a digidol
  • Teledu cylch gyfyng
  • Offer amddiffyn rhag tân

Mewn rhai achosion, gall taliadau gwasanaeth fod yn bersonol i'r tenant megis:

  • Gwresogi personol a dŵr poeth
  • Cyfraddau dŵr personol
  • Gwasanaethau Cyswllt Brys / llinell ofal.

Gelwir y mwyafrif o daliadau gwasanaeth yn daliadau gwasanaeth ‘amrywiol’. Mae tâl gwasanaeth amrywiol fel arfer yn seiliedig ar y gost wirioneddol o ddarparu'r gwasanaeth neu'r gwasanaethau a gall fynd i fyny neu i lawr yn unol â hynny.  Yn gyffredinol, amcangyfrifir taliadau gwasanaeth ar ddechrau pob blwyddyn ar sail costau blaenorol ac amcangyfrif o'r gwariant.

Yn gyffredinol, rhennir cost ddisgwyliedig darparu'r gwasanaeth yn gyfartal rhwng yr eiddo sy'n derbyn y gwasanaeth ar yr ystâd neu yn y cynllun neu'r bloc. Er enghraifft, gallai bloc o 40 o fflatiau fod â thaliadau gwasanaeth am e.e. torri gwair, glanhau ffenestri, a theledu cylch cyfyng o £2000 am y flwyddyn. Felly, codir £50 y flwyddyn ar bob fflat.

Mae angen paratoi cyllidebau taliadau gwasanaeth yn ofalus i sicrhau eu bod yn realistig, yn rhesymol ac yn darparu gwerth am arian.

Cwestiynau i’w gofyn i’ch landlord:

  • Sut mae ansawdd gwasanaethau, y telir amdano gan daliadau gwasanaeth, yn cael ei fonitro a'i wirio?
  • Sut mae'r landlord yn sicrhau bod taliadau gwasanaeth yn darparu gwerth am arian?
  • Pa wybodaeth a roddir i denantiaid am daliadau gwasanaeth a sut y cawsant eu cyfrif?
  • Beth all tenantiaid ei wneud os nad ydyn nhw'n hapus ynglŷn â chostau tâl gwasanaeth neu ansawdd y gwasanaethau maen nhw'n talu amdanynt?