Mae newidiadau newydd i’r gyfraith rhentu yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Mehefin 2026 o dan Ddeddf Hawliau Rhentwyr y DU, sy’n diweddaru Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru)

Deddf Rhentu Cartref (Cymru) a’r Ddeddf Hawliau Rhentwyr – Beth mae’n ei olygu i rentwyr cymdeithasol yng Nghymru?

  1. Mae newidiadau newydd i’r gyfraith rhentu yn dod i rym yng Nghymru ar 1 Mehefin 2026 o dan Ddeddf Hawliau Rhentwyr y DU, sy’n diweddaru Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru). Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i rentwyr cymdeithasol a phreifat.
  2. Gall unrhyw newidiadau i bolisi fod yn ddryslyd, a dyna pam rydym wedi partneru gyda Cartrefi Cymunedol Cymru i sicrhau ein bod yn gallu darparu gwybodaeth glir i chi, p’un a ydych yn rentwr neu’n landlord tai cymdeithasol cofrestredig.
  3. Mae’r cwestiynau cyffredin hefyd wedi’u llunio gyda chyfraniad gan aelodau tenant ein Grŵp TPAG er mwyn deall beth fyddai tenantiaid tai cymdeithasol eisiau ei wybod. Gobeithiwn fod yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol, ac anogwn chi i’w rhannu.
  4. Linc i’r dogfen dwyiethog yma: Deddf Hawliau Rhentwyr 2025