Ydych chi wedi symud i gartref tai cymdeithasol ers 1 Ebrill 2024?
Rydym yn chwilio am adborth gan denantiaid sydd wedi symud i gartref tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r arolwg byr hwn ar eich cyfer chi os ydych chi:
-
Yn byw mewn cartref tai cymdeithasol (er enghraifft, eiddo Cymdeithas Tai neu Gyngor); a
-
Wedi symud i'ch cartref presennol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024.
Mae Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) yn set o reolau swyddogol a grëwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob tai cymdeithasol yn ddiogel, yn gynnes, ac mewn cyflwr da. Yn dilyn newidiadau i SATC ym mis Ebrill 2024, dylai pob cartref cymdeithasol yng Nghymru gael lloriau addas pan fydd tenant newydd yn symud i mewn. Yn flaenorol, nid oedd lloriau, fel carpedi, ar gael i bob cartref.
Rydym yn cynnal arolwg byr ar gyfer tenantiaid sydd wedi symud i'w cartref ers y newid hwn i ddeall eich profiadau o symud i gartref gyda lloriau, y manteision, ac unrhyw heriau y gallech fod wedi'u hwynebu.
Gwnaethom ymchwil yn flaenorol ar loriau mewn tai cymdeithasol yn 2020 a 2023, ac yn awr rydym eisiau clywed yn uniongyrchol gan denantiaid ynglŷn â sut mae'r gofyniad newydd yn gweithio'n ymarferol a pha wahaniaeth y mae wedi'i wneud i chi fel Tenantiaid sy'n symud i gartref.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dienwi a'u defnyddio mewn adroddiad byr i helpu i wella dealltwriaeth a chefnogi dysgu ar draws y sector tai.
Dim ond ychydig funudau mae'r arolwg yn ei gymryd i'w gwblhau - Dim ond 5 cwestiwn sydd yna. Cymerwch ran nawr: https://tpascymru.questionpro.eu/socialhousingtenantsandflooring
Pan fyddwch chi'n cymryd rhan, gallwch chi hefyd gael eich cynnwys mewn gwobr raffl.
Bydd yr arolwg yn cau ar 18 Awst, a byddem wir yn gwerthfawrogi clywed am eich profiad.