Mae TPAS Cymru am recriwtio hyd at pedwar o bobl i ymuno â’n Bwrdd a all helpu i lunio dyfodol ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru 

Rdym yn recriwtio aelodau ar gyfer Bwrdd TPAS Cymru

Mae TPAS Cymru eisiau recriwtio hyd at pedwar o bobl i ymuno â’n Bwrdd a all helpu i lunio dyfodol ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru a chynorthwyo TPAS Cymru i gyflawni amcanion cadarnhaol a sicrhau ein bod yn cael ein rheoli’n dda. 

Ers dros 35 mlynedd, mae TPAS Cymru wedi bod yn hyrwyddo cyfranogiad tenantiaid gwych a phwysigrwydd llais y tenant wrth ddarparu gwasanaethau tai a datblygu cymunedol ehangach. Cawn ein penodi a’n hariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru ac fe’n cefnogir gan bob Cymdeithas Tai ac Awdurdod Lleol sy’n berchen ar gartref cymdeithasol yng Nghymru.

Mae TPAS Cymru am recriwtio hyd at pedwar o bobl i ymuno â’n Bwrdd a all helpu i lunio dyfodol ymgysylltu â thenantiaid yng Nghymru a chynorthwyo TPAS Cymru i gyflawni amcanion cadarnhaol a sicrhau ein bod yn cael ein rheoli’n dda.

Mae bod yn aelod o'r Bwrdd yn gofyn am ymrwymiad a chymhelliant ond gall roi boddhad mawr a ffordd wych o ddatblygu'n bersonol.

Mae angen i aelodau'r Bwrdd fod â chred gref yng ngwerth llais y tenant a manteision cydweithio a chydgynhyrchu wrth ddylunio gwasanaethau tenantiaid.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â sgiliau proffesiynol a ‘phrofiad byw’ ac nid oes gofyniad i fod yn rhan o’r Sector Tai gan ein bod yn gwerthfawrogi gwybodaeth ehangach er mwyn helpu i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio a chyflawni canlyniadau cadarnhaol.

Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac rydym am sicrhau bod gennym gynrychiolaeth o Gymru gyfan

Diddordeb?

Credwn ei bod yn bwysig bod gan bobl y sgiliau a'r gwerthoedd cywir yn hytrach na CV trawiadol. Er mwyn i ni weld eich rhinweddau a'r hyn rydych chi'n ei gynnig, lawrlwythwch y canlynol:

  1. Prosbectws Aelod y Bwrdd
  2. Ffurflen Gais Safonol 
  3. Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: Nos Sul 2il o Awst am 7pm

Mae dyddiadau cyfweliadau ar-lein yn debygol o fod rhwng 12 a 26 Awst (Rydym yn ymwybodol bod hyn yn ystod gwyliau ysgol a byddwn yn gwneud ein gorau i ddarparu ar eich cyfer chi)

Os hoffech drafod y rôl neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â David Wilton, Prif Weithredwr: [email protected] a fydd yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau.

Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Amanda Lawrence a Daniel Hall

Cadeirydd ac Is-gadeirydd ar ran Bwrdd TPAS Cymru